Mae heddlu Llundain yn credu bod yna gysylltiad rhwng pedwar achos o drywanu, ac achos o saethu a ddigwyddodd lai na milltir oddi wrth ei gilydd ddiwrnod ar wahân.
Fe gafodd pedwar dyn, bob un yn ei 20au, eu trywanu yn Edmonton yng ngogledd y ddinas toc cyn 6yh ddoe (dydd Sul, Tachwedd 18).
Roedd hynny ddiwrnod yn unig wedi i fachgen 16 oed a dau ddyn, 22, gael eu hanafu wedi i wn gael ei danio mewn tacsi lai na milltir i ffwrdd, yn Enfield.
Mae un person wedi cael ei arestio, ac mae’n dal i gynorthwyo’r heddlu gyda’u hymholiadau.