Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n apelio am ffotograffau sy’n dangos sut mae arfordir Cymru wedi newid dros y blynyddoedd.
Fe allai’r ffotograffau o draethau Talacre a Gronant yn Sir y Fflint helpu myfyrwyr ddeall sut mae’r arfordir yn erydu ac effaith newid hinsawdd ar dwristiaeth yng Nghymru. Dyma’r enghreifftiau olaf o dwyni tywod cyflawn ar hyd arfordir y gogledd.
Mae’r ardal hefyd yn gartref i fywyd gwyllt gan gynnwys llyfantod cefnfelyn a môr-wenoliaid bach.
Bydd y ffotograffau’n cyfrannu at becynnau i fyfyrwyr sy’n astudio Daearyddiaeth ar gyfer TGAU a Safon Uwch.
‘Enghreifftiau gwerthfawr o fywyd go iawn’
“Mae ein harfordir yng Nghymru’n odidog, ac mae’n gartref i amrywiaeth o fywyd gwyllt ac yn cynnig llefydd arbennig i ni ymweld â nhw a’u mwynhau,” meddai Ffion Hughes, cydlynydd addysg, Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Ond, fel pob arfordir, mae’n newid o hyd, ac mae’n bwysig i ni ddeall sut mae’r newidiadau hyn yn digwydd a’u heffaith.
“Rydym yn gofyn i bobol ar eu gwyliau, a phobol leol, ddanfon eu ffotograffau a’u hatgofion o Talacre a Gronant atom fel y gall dysgwyr ymchwilio i sut mae’r ardal wedi newid dros gyfnod o amser.
“Bydd astudio’r ardal, edrych ar ffotograffau a gwrando ar straeon yn cynnig enghreifftiau gwerthfawr o fywyd go iawn o’r pwysau ar ein harfordir a allai hyd yn oed helpu i’w warchod yn y dyfodol.”