Mae llyfrwerthwr o’r Eidal, a ddwynodd copi prin o lyfr Harry Potter gwerth £1,675, wedi llwyddo i osgoi cyfnod mewn carchar.
Fe wnaeth Rudolf Schonegger, 55 oed, dwyn copi prin o Harry Potter and the Goblet of Fire, a oedd wedi cael ei arwyddo gan J K Rowling, o siop Hatchards yn Piccadilly, Llundain, ar nos Galan.
Roedd fideo CCTV yn ei ddangos yn cerdded o gwmpas y siop cyn cyfnewid llyfr arall am y copi prin tra oedd aelod o staff ddim yn edrych.
Yn ddiweddarach, fe gafodd gopi o Late Call gan Angus Wilson ei ddarganfod yn lle’r llyfr Harry Potter.
Fe gafodd Rudolf Schonegger ei ddyfarnu’n euog o ddau gyhuddiad o fod ym meddiant newydd wedi’u dwyn yn dilyn achos yn Llys Ynadon Hendon yr wythnos ddiwethaf.
Yn ystod y gwrandawiad, fe gafodd ei orchymyn i dalu £1,675 i Hatchards, ynghyd â £410 i Peter Ellis a Peter Harrington, a wnaeth prynu’r lyfr yn fuan wedi’r digwyddiad.
Fe wnaeth Rudolf Schonegger ddwyn llyfr arall ar yr un diwrnod hefyd, sef Jude The Obscure gan Thomas Hardy, a hynny o siop pop-yp yn Fortnum a Mason, sydd yn yr un stryd â Hatchards.