Mae Canolfan y Mileniwm yn dweud eu bod wedi datrys problem dechnegol sydd wedi achosi trafferthion i bobol oedd yn ceisio prynu tocynnau cyngherddau’r Eisteddfod Genedlaethol – ond mae pobol yn dal i gwyno am y broses, ac yn honni eu bod wedi treulio oriau yn ceisio bwcio seddi.
Er i’r system brynu ar-lein fynd yn fyw am 8.30yb heddiw (dydd Mawrth, Ebrill 3), doedd dim modd prynu tocynnau.
“Mae’r [Ganolfan] wedi cysylltu i ddweud eu bod wedi datrys y problemau technegol erbyn hyn ond eu bod yn dal i gael traffic uchel i’r wefan sydd yn arafu’r broses,” meddai’r Eisteddfod ar Twitter.
“DIOLCH YN FAWR I BAWB am eich amynedd. Mae staff [Ganolfan] yn gweithio’n galed iawn i ddelio gyda phob un ymholiad!”
Be aeth o’i le?
Fel arfer mae modd prynu’r tocynnau o wefan yr Eisteddfod, ond eleni bu newid i’r drefn, gyda’r brifwyl yn ymweld â Chaerdydd a’n cynnal digwyddiadau yn y Ganolfan.
Mae’n debyg bod nifer fawr o bobol wedi heidio i’r wefan ar yr un pryd er mwyn prynu tocynnau, a bod y llif yma wedi cyfrannu at y trafferthion technegol.
Ymateb
Bu yna gryn dipyn o ymateb ar Twitter, gyda sawl un yn honni i’r broses gymryd dros awr.
https://twitter.com/Wenglishy/status/981087356588646400
Onid oes ffordd well, gallach o wneud hyn, bobol annwyl? Cofio’r un rhwytredigaeth y llynedd. Ar y wefan ers 8.30 – y ffôn a’r wefan ers 10. Mae gen i bethau arall sydd angen eu gwneud. 😡 https://t.co/xD7mA1fUrv
— Annwen Jones (@annwenjones1) April 3, 2018
Awr a hanner yn ddiweddarach a dwi di cael gafael ar docynnau. Ond nid y seddi o'n i eisiau. Ges i well lwc ar wefan Glastonbury yn 2005 (ie, 2005!). Lwcus nad ydw i'n gweithio heddiw. Reit, lle ga i afael ar awr a hanner?
— Awen Schiavone (@awensgiv) April 3, 2018