Bobby Bradley, naw oed
Mae bachgen naw mlwydd oed yn gobeithio hedfan i mewn i’r llyfrau hanes heddiw.
Mae Bobby Bradley, mab i ddau falwnydd enwog yn Albuquerque, yn gobeithio bod y peilot ieuengaf erioed i hedfan ar ei ben ei hun mewn balwn awyr poeth.
Wrth baratoi i gychwyn ar ei daith o fan anghysbell iawn yn New Mexico, roedd Bobby’n dweud ei fod yn “teimlo cyffro mawr”.
Dros y dyddiau diwethaf, mae wedi bod yn ymarfer codi a disgyn i’r ddaear drosodd a throsodd, tra bod ei falwn ar ben rhaff oedd yn ei dal yn sownd.
Mae ei dad, Troy Bradley, sy’n hyfforddi pobol i hedfan balwnau awyr poeth, yn dweud fod arolygon y tywydd yn addo diwrnod delfrydol ar gyfer yr hedfaniad.
Chaiff Bobby ddim ei drwydded hedfan nes y bydd yn 16 oed, felly mae ei deulu wedi mynd ati’n arbennig i adeiladu balwn lai na’r arfer er mwyn ei alluogi i drio torri’r record.