Angus Robertson
Y dyn y tu cefn i fuddugoliaeth fawr yr SNP eleni fydd yn trefnu’r ymgyrch i gael annibyniaeth i’r Alban.

Mae’r AS Angus Robertson wedi cael ei benodi’n gyfarwyddwr yr ymgych ‘Ie’ yn y refferendwm fydd yn cael ei gynnal rhyw dro rhwng 2014 a 2016.

Mae wedi addo defnyddio’r un math o adnoddau technegol a thargedu manwl a helpodd yr SNP i ennill mwyafrif llwyr yn Holyrood.

Y ddwy ochr

Fe fydd Llafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yno i gyd yn ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth ond mae’r 68 aelod o’r SNP yn debyg o gael cefnogaeth dau aelod o’r Gwyrddion a’r genedlaetholwraig annibynnol, Margo MacDonald.

Yn ôl papur y Scotsman, fe fydd brwydro hefyd i hawlio’r fantell ‘Ie’ ac osgoi gorfod cynnal ymgych negyddol.

Fe fydd yr unoliaethwyr yn ceisio hawlio mai nhw sy’n dweud ‘Ie’ i aros o fewn y Deyrnas Unedig, tra bod yr SNP yn hawlio ‘Ie’ o blaid annibyniaeth.

‘Hawl i ddewis’

“Dyw’r ddadl bellach ddim yn ddewis rhwng newid neu beidio,” meddai Angus Robertson. “Mae’n ymwneud â’r math o newid y mae’r Alban eisio.

“Yn fwy na dim, mae’n ymwneud â hawl y bobol i ddewid eu dyfodol mewn refferendwm rhydd a theg.”

Mae Angus Robertson yn addo y bydd yn dweud rhagor am fanylion yr ymgyrch “yn ystod y dyddiau, yr wythnosau a’r misoedd nesaf”.