Ali Abdullah Saleh (www.kremlin.ru)
Fe gafodd Arlywydd Yemen ei anafu mewn ymosodiad gan wrthryfelwyr.

Dyw hi ddim yn glir eto pa mor ddifrifol yw’r niwed i Ali Abdullah Saleh – mae datganiadau swyddogol yn sôn am “grafiadau” i’w wyneb ond mae wedi methu ag ymddangos ar y teledu eto ac fe gafodd ei gludo i ysbyty lleol.

Fe gafodd saith milwr eu lladd a nifer o uchel swyddogion eraill eu hanafu, gan gynnwys Prif Weinidog y wlad a phrif gynghorydd diogelwch yr Arlywydd.

Roedden nhw mewn mosg o fewn cyffiniau palas yr Arlywydd yn gweddïo pan gafodd roced ei thanio atyn nhw – y weithred fwya’ beiddgar eto gan wrthryfelwyr yn yr ymladd ffyrnig sydd wedi bod yn Yemen ers bron bythefnos.

Mae hynny yn ei dro’n dilyn misoedd o brotestio yn erbyn llywodraeth Ali Abdullah Saleh gan alw ar iddo fynd.