Un o bosteri'r ymgyrch (o dudlaen Facebook y trefnwyr)
Fe fydd yr ymgyrchoedd Slutwalk yn cyrraedd gwledydd Prydain heddiw gyda gorymdaith trwy ganol Caerdydd.

Mae disgwyl cannoedd o ferched a chefnogwyr yn y brotest, sy’n rhan o fudiad rhyngwladol yn erbyn y duedd i feio merched sy’n cael eu treisio am “wisgo’n bryfoclyd”.

Ers deufis, mae protestiadau wedi eu cynnal yng ngogledd America ac Ewrop ar ôl i blismon yn Toronto ddweud y dylai menywod beidio â gwisgo fel “sluts” os nad oedden nhw am gael eu treisio.

Wedi cael digon

Fe fydd y daith yn dechrau o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd, gyda llawer o’r merched yn gwisgo dillad “pryfoclyd”.

Yn ôl y trefnwyr, roedd troseddu rhywiol difrifol wedi codi 6% yng Nghymru a Lloegr y llynedd ac maen nhw wedi cael digon ar y diwylliant sy’n dweud bod “merched yn gofyn amdani”.

“Mae ein neges yn syml,” medden nhw. “Beiwch yr ymosodwr, nid yr un sy’n dioddef. Rhaid i ni weithredu’n awr.”

Erbyn hyn, mae rhai o bosteri’r ymgyrch yn enwog, gyda sloganau fel “Gofynnwch am beth ydw i’n gofyn” a “mae dynion yn edrych fel sluts i bobol gyda ffetish am iwnifform”.