Pa mor ddylanwadol fydd Gareth Bale heb gefnogaeth Joe Allen ac Aaron Ramsey?
Fe fydd tîm pêl-droed Cymru’n gobeithio adeiladu ar eu perfformiad yn Awstria nos Iau wrth iddyn nhw herio Georgia yn Stadiwm Dinas Caerdydd y prynhawn ma.

Ond fe fydd rhaid iddyn nhw ymdopi heb un arall o’u sêr, Joe Allen a ddaeth oddi ar y cae ag anaf i linyn y gâr yn y gêm ragbrofol Cwpan y Byd yn erbyn Awstria, a orffennodd yn gyfartal 2-2.

Roedden  nhw eisoes heb Aaron Ramsey, sydd heb chwarae ers diwrnod cynta’r Uwch Gynghrair ym mis Awst.

Ond mae’r rheolwr Chris Coleman eisoes wedi dweud nad yw’n credu y bydd eu habsenoldeb yn achosi problem fawr i Gymru, sydd wedi cynnwys David Edwards ac Emyr Huws yn y garfan yn eu lle

Mae 127 o lefydd rhwng y ddwy wlad yn ôl rhestr detholion Fifa, sy’n gosod Cymru yn y degfed safle.

Ond dydy Cymru erioed wedi curo Georgia, oedd yn fuddugol ym mhob un o’u tair gêm yn erbyn ei gilydd – yn 1994, 1995 a 2008.

Ac mae’r tîm presennol eisoes wedi curo Sbaen eleni.

Bydd y gic gyntaf am 5 o’r gloch.