Mae canlyniadau arbrawf ar gyfer cyffur canser newydd yn cynnig gobaith o’r newydd i gleifion, yn ôl arbenigwyr.
Mae canlyniadau arbrawf wedi cael eu cyflwyno i Gyngres Ganser Ewrop, ac mae ganddo’r potensial i newid triniaethau canser.
Roedd yr arbrawf yn canolbwyntio ar gyffur nivolumab ar gyfer cleifion â chanser y pen a’r gwddf, ac fe wnaeth ymestyn oes cleifion yn fwy na chleifion cemotherapi.
Mewn arbrawf arall, fe lwyddodd y cyffur i leihau tiwmorau yn yr arennau.
Bwriad cyffuriau imiwnotherapi yw dysgu’r system imiwnedd i ddinistrio celloedd canser.
Ar hyn o bryd, canran fechan yn unig o gleifion canser y pen a’r gwddf sy’n goroesi.
Fe oroesodd 36% o gleifion a gymerodd y cyffur fwy na blwyddyn, o’i gymharu â 17% oedd wedi derbyn cemotherapi.
Roedd llai o sgil effeithiau gan y cyffur hwn o’i gymharu â chemotherapi.
Mewn rhai achosion, cafodd oes cleifion ei ymestyn o dri mis ar ôl cymryd y cyffur, a hynny ymhlith cleifion nad oedd disgwyl iddyn nhw fwy yn fwy na chwe mis ar ôl diagnosis.
Cafodd y canlyniadau eu cyhoeddi yn y New England Journal of Medicine.