Fydd y chwaraewr canol cae Joe Allen ddim yn wynebu Georgia yng Nghaerdydd ddydd Sul ar ôl methu â gwella o anaf i linyn y gâr.
Sgoriodd Allen yn y gêm gyfartal 2-2 yn erbyn Awstria yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn Fienna.
Ond fe ddaeth oddi ar y cae yn ddiweddarach.
Ond mae rheolwr Cymru, Chris Coleman wedi dweud y gall ei garfan – sydd heb Aaron Ramsey hefyd – ymdopi heb Allen.
“Does dim esgusodion. Oes gyda ni ddigon i gael canlyniad ddydd Sul heb Joe Allen? Oes. Felly wna i ddim gwneud esgusodion.
“Fydd e ddim yno yfory. Dydy e ddim yn holliach. Mae’n drueni.”