Mae arweinwyr busnes wedi galw ar Brif Weinidog Prydain, Theresa May i ddileu “agweddau gwaethaf” Brexit.

Yn ôl cyfarwyddwr cyffredinol y CBI (Conffederasiwn Busnesau Prydain) Carolyn Fairbairn, rhaid mynd i’r afael â’r mater “ar frys” gan fod ansicrwydd yn effeithio ar fuddsoddiadau.

Dywedodd ei bod yn hanfodol nad yw Prydain yn ymrwymo i’r tariff sylfaenol sy’n cael ei osod gan Sefydliad Masnach y Byd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd yn 2019.

Rhybuddiodd y gallai 90% o nwyddau Prydain ddod o dan y tariff sylfaenol.

“Beth sy’n bwysig yma yw wfftio rhai o’r opsiynau negyddol iawn hyn.

“Buddsoddiad yw’r brys mawr. Y penderfyniadau buddsoddi sy’n cael eu gwneud nawr sy’n gwneud hyn yn fater brys,” meddai wrth raglen Today BBC Radio 4.

Mae’r CBI a’r EEF wedi llofnodi llythyr sy’n rhybuddio am beryglon Brexit.

Dywed y llythyr: “Rydym yn parchu canlyniad y refferendwm, ond mae’n rhaid i’r Llywodraeth sicrhau bod amodau’r cytundeb i adael yn sicrhau sefydlogrwydd, llewyrch a gwell safon byw.

“Mae pob astudiaeth gredadwy a gafodd ei chynnal wedi dangos y byddai opsiwn y WTO yn gwneud difrod difrifol a hirdymor i economi’r DU a’n partneriaid masnachu.”

Mae’r llythyr hefyd yn codi pryderon am yr amserlen ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae Theresa May eisoes wedi dweud y bydd y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd yn dechrau erbyn diwedd mis Mawrth.