Pokémon Arms yw enw newydd y Panton ym Mhentraeth (Llun: Karen Owen)
Mae tafarn ym Môn wedi’i hail-enwi yn ‘Pokémon Arms’ wedi i lwythi o chwaraewyr y gêm ffôn symudol, Pokémon Go, fod yno dros yr wythnosau diwetha’.

Mae The Panton Arms ym Mhentraeth bellach yn arddangos arwydd newydd dros-dro fel dipyn bach o hwyl, gan fod y rheiny sy’n teithio o gwmpas yn casglu cymeriadau Pokémon yn stopio yno er mwyn mynd i’r siop dros y ffordd (y Pokéstop) i gasglu peli (pokéballs) ar gyfer y gêm.

Felly, am gyfnod, mae’r dafarn sydd hefyd yn gallu brolio signal ffôn da o gymharu â’r ardal o’i hamgylch, dan enw newydd.