Mae pedwar dyn, oedd cael eu hamau o fod yn wrthryfelwyr, wedi’u saethu’n farw mewn brwydr gyda swyddogion diogelwch yn ninas St Petersburg, Rwsia.

Roedd y swyddogion wrthi’n cynnal cyrchoedd ar fflatiau ac yn chwilio am derfysgwyr Islamaidd oedd wedi bod yn ymladd yn y Caucasus, pan ddaethon nhw o hyd i’r pedwar dyn yn cuddio ar gyrion y ddinas.

Mae lluniau sydd wedi’u darlledu ar deledu, yn dangod swyddogion diogelwch yr FSB mewn dillad reiat wedi amgylchynu’r fflat lle’r oedd y dynion yn cuddio, yn gwrthod dod allan, ac yn tanio at y swyddogion.