Ble’r oeddech chi ar Orffennaf 1, 2016?

Oeddech chi yn y Stade Pierre Mauroy yn Lille, tybed? Mewn tafarn? Traed i fyny o flaen y teledu?

Pwy all anghofio’r noson fawr bedair blynedd union yn ôl, pan sicrhaodd tîm pêl-droed Cymru eu lle yn rownd gyn-derfynol Ewro 2016, ar ôl curo Gwlad Belg yn dilyn gôl wefreiddiol Hal Robson-Kanu.

Mae’n siŵr fod y lluniau’n fyw o hyd yn ein meddyliau, wrth i Aaron Ramsey greu lle i’r ymosodwr dderbyn y bêl, a’i gefn at y gôl, cyn iddo droi ar ei sawdl a tharo’r bêl heibio i Thibaut Courtois i gornel y rhwyd.

Yr hyn oedd fwyaf anghredadwy, efallai, oedd fod Robson-Kanu heb glwb ar y pryd, ar ôl i Reading ei ryddhau.

Ond fe sicrhaodd e’r noson honno na fydd neb yn y byd pêl-droed, heb sôn am Gymru, yn anghofio amdano fe nac un o uchafbwyntiau’r gystadleuaeth.

Hal…! Hal Robson…! Hal Robson-Kanu…! Hal!

Diwrnod Hal Robson-Kanu Hapus i bawb o ddarllenwyr Golwg360!