Fe fydd cricedwyr Morgannwg yn ymarfer heddiw (dydd Mercher, Gorffennaf 1) am y tro cyntaf ers ymlediad y coronafeirws.

Daw’r penderfyniad yn dilyn cyhoeddiad Bwrdd Criced Cymru a Lloegr (ECB) y bydd y tymor sirol yn dechrau ar Awst 1.

Bydd yn rhaid i’r chwaraewyr ddilyn mesurau llym ar sail cyngor Llywodraeth Prydain a phrotocol yr ECB.

Bydd sesiynau un-i-un yn cael eu cynnal yn y lle cyntaf dan oruchwyliaeth yr hyfforddwyr a’r staff meddygol, a phawb yn cael profion meddygol bob dydd yng Ngerddi Sophia.

Bydd sesiynau’n cael eu cynnal wrth i staff y clwb ddychwelyd yn raddol i’w gwaith, ac fe fydd y cam nesaf yn cynnwys sesiynau ymarfer mewn grwpiau bach.

‘Edrych ymlaen’

“Rydyn ni wrth ein boddau o gael cymryd y camau cyntaf hyn tuag at chwarae criced eto,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Bydd yn cymryd ychydig o amser i’r chwaraewyr ddod o hyd i’w rhythmau, ond rydyn ni’n hyderus y byddan nhw’n addasu’n gyflym i ymarferion a’r amgylchfyd newydd ac yn fwy na dim, mae pawb yn edrych ymlaen at fynd allan ar y cae a bwrw iddi.

“Mae’r tîm gweithrediadau yn y stadiwm wedi gweithio’n galed i baratoi’r lle, ac mae staff y tir wedi sicrhau bod y lleiniau a’r cyfleusterau’n dal o’r safon uchel arferol, felly dylai fod yn broses esmwyth i bawb.”