Mae prop Cymru Rhys Carré ar ei ffordd yn ôl i’r Gleision ar ôl tymor gyda’r Saraseniaid.

Fe adawodd e Barc yr Arfau ddiwedd y tymor diwethaf i ymuno â’r tîm yn Lloegr, ond mae e wedi llofnodi cytundeb tymor hir i ddychwelyd i Gymru.

Mae’r Saraseniaid wedi cwympo o Uwch Gynghrair Lloegr, ac yn wynebu colli nifer sylweddol o’u chwaraewyr ar ôl iddyn nhw wario mwy nag y mae hawl ganddyn nhw i’w wneud droeon.

‘Gleision Caerdydd yw fy nhîm i’

Mewn datganiad, dywed Rhys Carré ei fod e’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Gymru.

“Mae’n wych cael arwyddo i Gleision Caerdydd a dw i’n edrych ymlaen at ddychwelyd i Barc yr Arfau a chwarae fy rhan unwaith eto,” meddai.

“Dw i wedi mwynhau fy amser gyda’r Saraseniaid ac mae chwarae ac ymarfer gyda charfan mor brofiadol a llwyddiannus wedi bod yn fuddiol dros ben.

“Ond Gleision Caerdydd yw fy nhîm i, a dw i’n angerddol iawn amdanyn nhw – dyma’r tîm roeddwn i’n ei gefnogi’n blentyn, des i drwy’r rhengoedd yma a dw i eisiau bod yn rhan o’r hyn rydyn ni’n ei adeiladu.

“Dw i’n amlwg yn nabod y bois i gyd ac mae’n garfan gyffrous iawn, sydd ond yn mynd i wella, ac mae diwylliant gwych drwy’r sefydliad i gyd.”