Mae tîm pêl-droed Abertawe’n “dal i gredu” ar ôl iddyn nhw gael gêm gyfartal 1-1 ym Millwall neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 30), yn ôl eu rheolwr Steve Cooper.

Roedd y canlyniad yn ergyd i’w gobeithion o gyrraedd y gemau ail gyfle, wrth iddyn nhw orffen y noson yn yr wythfed safle, bedwar pwynt islaw Caerdydd sy’n chweched.

Roedd yn ergyd ddwbwl i’r Elyrch ar ôl y siom o golli gartref yn erbyn Luton dros y penwythnos a gyda dim ond chwe gêm yn weddill, mae’n debygol y bydd rhaid iddyn nhw ennill pob un er mwyn aros yn y ras.

Ar ôl colli’r bêl, cafodd yr Elyrch eu cosbi yn yr hanner cyntaf wrth i Millwall wrthymosod cyn i Mason Bennett danio’r ergyd roddodd y tîm cartref ar y blaen.

Ond tarodd Rhian Brewster chwip o gic rydd o 25 llathen i unioni’r sgôr ar ôl 65 munud, er mai gôl i’w rwyd ei hun gan y golwr Bartosz Bialkowski sydd wedi’i chofnodi’n swyddogol, ar ôl i’r bêl daro’r trawst a chefn y golwr cyn mynd i’r rhwyd.

Gallai Millwall fod wedi mynd ar y blaen sawl gwaith ym munudau ola’r gêm, nid lleiaf pan fu bron i Ben Cabango ildio cic o’r smotyn am dacl drwsgwl.

Ond daliodd yr Elyrch eu tir ac mae’r ras yn dal yn ben agored.

Yn gynharach yn y noson, daeth cadarnhad y bydd Joe Rodon allan am weddill y tymor ar ôl anafu ei ffêr, ac fe gafodd Ben Wilmot ei anafu yn ystod y gêm, a dydy hi ddim yn glir eto am ba hyd y bydd e allan.

‘Dal i fynd a dal i gredu’

“Rhaid i ni ddal i fynd a dal i gredu,” meddai Steve Cooper ar ôl y gêm.

“Oes, mae’n rhaid i ni wella o ran rheoli’r gêm a gwella wrth ofalu am y bêl yn hwyr mewn gemau, ond byddwn ni bob amser yn ymdrechu i wella oherwydd mae rhywbeth i’w wella o hyd.

“Wnawn ni ddim rhoi’r gorau iddi.”

Er y canlyniad siomedig, roedd Steve Cooper yn llawn canmoliaeth ar gyfer Rhian Brewster ar ôl perfformiad da unwaith eto, gan gynnwys y gic rydd dyngedfennol.

“Mae e’n eu hymarfer nhw bob dydd ac mae ei gyfradd lwyddiant yn dda,” meddai.

“Dw i wedi ei weld e’n gwneud hynny sawl gwaith, ac rydych chi yn ei ffansïo fe [i sgorio].

“Roedd hi’n gôl wych.”

Bydd Abertawe’n croesawu Sheffield Wednesday i Stadiwm Liberty ddydd Sul.