Fe wnaeth Caerdydd ollwng pwyntiau neithiwr (nos Fawrth, Mehefin 30), a hynny am y tro cyntaf ers i’r Bencampwriaeth ailddechrau, wrth iddyn nhw orffen yn gyfartal ddi-sgôr gartref yn erbyn Charlton.

Roedd Charlton hefyd wedi ennill eu dwy gêm ddiwethaf, ac roedd y pwynt yn hollbwysig iddyn nhw wrth iddyn nhw frwydro i aros yn y gynghrair, tra bo’r canlyniad yn ergyd i ymgyrch Caerdydd yn y ras am y gemau ail gyfle.

Mae’r Elyrch yn aros yn y chweched safle am y tro.

Daeth cyfleoedd cynnar i’r ddau dîm, gyda Dion Sanderson ac Andre Green ag ergydion aflwyddiannus i’r naill dîm a’r llall, ond digon di-fflach oedd gweddill yr hanner cyntaf wedyn.

Dechreuodd Charlton yr ail hanner yn gryfach na’r Adar Gleision, ond prin iawn oedd eu cyfleoedd serch hynny, er iddyn nhw, ill dau, wneud sawl newid yn hwyr yn y gêm wrth chwilio am y triphwynt allweddol.

‘Diffyg sglein’

Ar ddiwedd y gêm, fe wnaeth Neil Harris, rheolwr Caerdydd, gydnabod fod yna ddiffyg sglein ar eu perfformiad nhw.

“Roedd y gorfoledd ar ôl y ddwy gêm ddiwethaf a’m canmoliaeth i’r chwaraewyr yn gwbl gywir, ond mae ffordd hir o’n blaenau ac roedd hynny’n amlwg heno,” meddai.

“Fe wnaethon ni ddominyddu’r bêl ond roedd yna ddiffyg sglein.

“Chwarae teg i Charlton, doedden ni ddim yn gallu eu torri nhw i lawr, ond dw i’n falch gyda’r llechen lân a rhai perfformiadau unigol.”

Ffrae ynghylch Albert Adomah

Roedd y ffrae ynghylch Albert Adomah, sydd ar fenthyg o Nottingham Forest, yn gysgod tros y noson i Gaerdydd.

Mae’r asgellwr wedi chwarae ei gêm olaf i dîm Neil Harris, ar ôl i’w brif glwb ei alw’n ôl er na fydd e’n gymwys i chwarae iddyn nhw am weddill y tymor.

Mae triphwynt yn unig yn gwahanu Caerdydd a Nottingham Forest yn y ras am y gemau ail gyfle, ac mae’n ymddangos felly mai penderfyniad tactegol a seicolegol yw ei alw’n ôl i ganolbarth Lloegr.

Yn sgil y digwyddiad, mae Neil Harris wedi beirniadu’r Gynghrair Bêl-droed am y ffordd maen nhw’n ymdrin â chwaraewyr sydd ar fenthyg.

Roedd disgwyl i Adomah fod ar gael tan ddiwedd y tymor pan symudodd e i’r brifddinas ym mis Ionawr.

“Does dim byd wedi newid,” meddai Neil Harris.

“Dyna oedd ei gêm olaf i ni.

“Dyna pam wnes i ei adael e allan yna, gan fy mod i’n credu y byddai’n cynnig eiliad hudolus.

“Mae ei record yng nghrys Caerdydd yn dda, ac rydyn ni’n dymuno’n dda iddo fe.

“Mae e’n chwaraewr gwych a dw i’n hapus na fydd e’n chwarae i Forest.

“Alla i ddim bod yn fwy clir na gonest ynghylch fy marn am Gynghrair Bêl-droed Lloegr.

“Dw i ddim yn credu bod Forest yn dod allan ohoni’n edrych yn wych, ond mae’r EFL yn edrych yn amaturaidd.

“Mae Albert wedi ymdrin â hyn yn gwbl broffesiynol.

“Roedd e eisiau aros gyda ni, ond yn anffodus, gwystlon mewn gêm yw’r chwaraewyr weithiau.”