Mae pryderon y gallai Joe Rodon fod allan am weddill y tymor pêl-droed ar ôl anafu ei ffêr.
Fe gafodd e’r anaf wrth ymarfer ddydd Sul, yn ôl adroddiadau.
Mae’n golygu nad yw e ar gael ar gyfer y gêm ym Millwall heno.
Ac fe allai olygu yn y pen draw ei fod e wedi chwarae i’r Elyrch am y tro olaf, gyda’r dyfalu’n parhau y gallai adael y clwb ar ddiwedd y tymor.