Maia Jones yn awgrymu bod angen i wleidyddion fod yn ddoeth
Yn sgil y newyddion bod Sky News a’r BBC wedi adnewyddu a thynhau eu rheolau i newyddiadurwyr ynglŷn â beth y gallan nhw drydar yn ei gylch, mae’n ddiddorol gofyn i ba raddau mae gwleidyddion yn sensro’r math o wybodaeth y byddant nhw’n ei rhannu hefo gweddill y byd. A beth yw’r peryglon iddyn nhw a defnyddwyr yn gyffredinol?
Does dim rhaid meddwl yn ôl yn bell iawn i drydar a achosodd storm, cyhuddiadau o hiliaeth a rhai yn galw am ddiswyddo’r gwleidydd Diane Abbott. Achoswyd y ffrae ar ôl i Dianne drydar bod pobol gwyn yn hoffi chwarae ‘rhannu a rheoli’ yn dilyn trafodaeth am gyffredinoliadau am y gymuned ddu efo Bim Adewunmi. Yn amlwg roedd yr hyn a ysgrifennwyd mewn cyfrwng cyhoeddus yn anaddas ond, i rai, roedd yn gwbl afresymol.
Gofod cyfyng
Dangosodd y digwyddiad nad oes lle mewn 140 cymeriad i ddarparu cyd-destun i’r hyn sydd yn cael ei ddweud. Diddorol bydd gweld i ba raddau y bydd gwleidyddion yn ofni achosion tebyg ac yn penderfynu chwarae’n saff.
Perygl hyn yw y colli personoliaeth y trydarwyr, yr union nodwedd sydd yn gwneud newyddiadurwyr a gwleidyddion yn gyfathrebwyr digidol llwyddiannus. Mae’r gwerth ychwanegol sy’n cael ei gyfrannu at y drafodaeth yn cael ei fygwth gan gyfyngiadau ac ofnau. O ganlyniad darlun ddiarddurn, rhyw botes maip llugoer, a gaiff y pleidleiswyr cyffredin. Bydd trydar diflas yn golygu bod llai yn ei ddilyn a buan mae rhywun yn blino ar adlifo. Hynny yw, nid yw ailadrodd straeon neu drydar pobol eraill (‘retweet’) yn tynnu sylw nac yn ennill llawer o ddilynwyr yn y cyfrwng yma.
Pwerus
Gall y cyfrwng fod yn hynod o bwerus ac effeithiol. Yr enghraifft orau yw ymgyrch Arlywyddiaeth Barack Obama. Mae’n declyn delfrydol i wleidyddion unigol, allblyg a chydwybodol.
Yn ogystal â rhoi hwb i wleidyddion gall fod yn llwyfan ar gyfer ymgyrchu a gwrthwynebu yn hytrach na’r drafodaeth lywodraethol. Mae’n galluogi rhai i sôn am ‘chwyldro’ mewn gwleidyddiaeth a mae modd dyfnhau democratiaeth fel bod cyfathrebu uniongyrchol rhwng y gwleidydd a’r etholwyr. Mae’n atsain o’r hen ddeisyfiad o’r bobol yn deisebu’r sofran er mwyn gweithredu eu hewyllys.
Mae’n cael effaith trawsffurfiol ar ein hagweddau tuag at natur mynediad a chyfrinachedd. Honna’r athronydd iwtilitaraidd Peter Singer y dylen ni groesawu’r gwell cyfleoedd ar gyfer gwyliadwriaeth mewn cymuned. Os mae pobl eraill yn gwybod mwy amdanom ni, rydym yn gwybod mwy amdanynt hwy. Felly bydd yn galluogi ni i ddatblygu cymdeithas fwy rhydd ac agored.
Bydd datgelu yn dod a hapusrwydd fwyaf i’r nifer fwyaf posib. Mae’n adleisio’r dywediad- bod gwybodaeth yn bŵer.
Pwy sydd i ddweud?
Ochr arall i’r darlun yw hanesion megis yr un am Paul Chambers a drydarodd jôc am ffrwydro maes awyr Robin Hood am fod yr eira yn ei atal rhag gweld ei gariad. Mae’r cyfrwng yn cael ei ganmol am ei fod o’n galluogi rhannu gwybodaeth ond mae hefyd yn golygu bod galwadau am lefel newydd o reolaeth. Rheolaeth dros y sawl sydd yn mynegi jôcs anghyfrifol? Pwy ddylai benderfynu be sy’n anghyfrifol?
Felly, mae’n dda rhannu gwybodaeth ond rhaid deall goblygiadau’r cyfrwng cyhoeddus yma, fel gwleidydd ac fel defnyddiwr. Yn anad dim deall peryglon rheolaeth dros gyfathrebu rhydd.
Mae Maia Jones yn fyfyrwraig Meistr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth. Mae hi’n gweithio ar brosiect ar y cyd hefo Golwg360 sydd yn edrych ar sut mae rhwydweithiau cymdeithasol wedi, ac yn newid gwleidyddiaeth Cymru.