Mae sylfaenydd y blaid asgell dde Ffrengig, Front Nationale, wedi ei gael yn euog o wadu troseddau yn erbyn dynoliaeth.

Roedd e wedi dweud nag oedd cyfundrefn y Natsïaid yn Ffrainc yn “eithriadol o annynol”.

Cafodd Jean-Marie Le Pen ddedfryd o dri mis yn y carchar, wedi’i ohirio, yn ogystal â dirwy o 10,000 Ewro, sef tua £8,300.

Roedd Le pen wedi gwneud yr honiadau mewn cylchgrawn yn 2005.

Mae gan Ffrainc gyfreithiau llym yn erbyn areithiau gwrth-semitig.

Cafwyd Le Pen yn euog yn wreiddiol yn 2009, ond roedd uchel lys wedi gwrthdroi’r penderfyniad, ac wedi anfon yr achos yn ôl i’r llys apêl ym Mharis.

Marine, merch Jean-Marie Le Pen, sy’n arwain y blaid eithafol erbyn hyn, ac mae hi’n un o’r ceffylau blaen yn yr etholiadau arlywyddol yn Ffrainc.

Bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal ym mis Ebrill a Mai.