Yr Airlander 10, yn Cardington, Llun: Dominic Lipinski/PA Wire
Mae awyren fwya’r byd wedi bod mewn damwain yn ystod ei hail daith brawf.
Mae’r Airlander 10 yn 92 metr o hyd ac yn gyfuniad o awyren, hofrennydd a llong awyr.
Mae’n debyg ei bod wedi taro polyn telegraff ym Maes Awyr Cardington, Swydd Bedford y bore ma.
Mae lluniau wedi dod i’r amlwg o’r awyren ar y ddaear gyda’i thrwyn yn pwyntio tuag at y llawr.
Dywedodd Hybrid Air Vehicles, sy’n datblygu’r Airlander 10, mewn datganiad nad oedd unrhyw un wedi’u hanafu yn digwyddiad.
Mae Hybrid Air Vehicles wedi dweud y gellid ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o swyddogaethau fel ysbio, cyfathrebu, darparu cymorth dyngarol a hyd yn oed i gludo teithwyr.
Mae’r Airlander tua 50 troedfedd yn hirach na’r awyrennau mwyaf sy’n cludo teithwyr, ac yn defnyddio heliwm i esgyn i’r awyr, gan deithio ar gyflymder o hyd at 92mya.
Mae’r cwmni’n dweud y gallai’r llong awyr enfawr aros yn yr awyr am tua phum diwrnod yn ystod teithiau.
Mae’r cwmni’n gobeithio adeiladu 10 o’r awyrennau bob blwyddyn erbyn 2021.