Mae disgwyl i gynlluniau ar gyfer tyrbin gwynt 200 troedfedd fyddai’n creu trydan i blasty a chartref elusen gelfyddydol yn Sir Benfro gael eu gwrthod yn sgil pryderon y byddan nhw’n peryglu diogelwch Maes Awyr Gorllewin Cymru.

Mae Mr a Mrs G Peters o Western Solar Ltd yn ceisio cael caniatâd ar gyfer un tyrbin ar dir ger Plas Rhosygilwen, adeilad rhestredig gradd 2 yng Nghilgerran ger Aberteifi, sy’n cynnwys Neuaddydderwen, sy’n ofod celfyddydol.

Bydd y cais ar gyfer y tyrbin 62 medr, a’r gwaith cysylltiedig, yn cael ei ystyried gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Benfro y mis hwn.

Dylid gwrthod y cynllun, sy’n cael cefnogaeth Cyngor Cymuned Cilgerran, ar sawl sail, yn ôl yr argymhellion.

Mae’r seiliau hynny’n cynnwys dadleuon y byddai’n gwneud niwed i’r safle, ac yn bwgwth diogelwch ym Maes Awyr Gorllewin Cymru yn Aber-porth, sydd tua 9.5 cilomedr i ffwrdd yng Ngheredigion.

‘Busnes yn ddibynnol ar ostwng costau’

Yn eu datganiad o gefnogaeth, mae’r asiantaeth Infinite Renewables Limited, yn dweud y byddai’r tyrbin yn cyflenwi’r rhan fwyaf o’r trydan sydd ei angen i redeg pwmp gwresogi’r plas yn y gaeaf, ac yn cymryd lle’r system solar bresennol.

“Mae parhad y busnes, y Pembrokeshire Retreat a Menter Rhosygilwen (yr elusen gelfyddydol) sy’n cael eu rhedeg yn Neuaddydderwen a’r plasty, yn ddibynnol ar ostwng prisiau ynni.

“Bu’n rhaid cau dros y gaeaf yn 2022/23 oherwydd bod cael ynni o’r tu allan wedi arwain at filiau ynni uchel.”

‘Ymyrryd â signalau’

Mae adroddiad ar gyfer y cynllunwyr yn dweud fod rheolwr Maes Awyr Gorllewin Cymru wedi gwrthwynebu’r datblygiadau arfaethedig gan ei bod hi’n bosib y byddai’n ymyrryd â signalau radar.

“Mae e’n nodi, dan Orchymyn Mordwyaeth Awyr 2016, fod gan Faes Awyr Gorllewin Cymru gyfrifoldeb statudol i ddiogelu ei signalau mordwyaeth radio a’u bod nhw’n gorfod gallu dangos i’r Awdurdod Hedfan Sifil fod unrhyw benderfyniadau i lacio unrhyw ofynion diogelu’n seiliedig ar dystiolaeth dechnegol gadarn,” medd yr adroddiad.

Fodd bynnag, mae ymgynghorydd hedfan sy’n cynghori Infinite Renewables Limited wedi awgrymu, yn dechnegol, fod Maes Awyr Gorllewin Cymru’n un di-radar gan nad yw’n darparu gwasanaethau radar ar gyfer awyrennau sy’n cyrraedd na gadael y maes awyr, gan ychwanegu eu bod nhw ond yn dod o dan y Rheolau Gweladwyedd Hedfan a bod y maes glanio ond yn darparu Gwybodaeth Maes Glanio i Awyrennau.

Daw’r ymgynghorydd i’r canlyniad na fyddai’r tyrbin yn cael effaith ar ddiogelwch y maes glanio ac na fyddai’n effeithio ar ddarparu gwasanaethau – awgrym mae rheolwr y maes awyr yn ei wrthod.

Bydd y cais yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn Neuadd y Sir yn Aberdaugleddau ar Ionawr 9.