Fe fydd cynrychiolwyr o Lydaw, Iwerddon ac OpenAI, datblygwyr y rhaglen ChatGPT, ymhlith prif siaradwyr Symposiwm Academaidd Technolegau Iaith Cymru ym Mhrifysgol Bangor heddiw (dydd Gwener, Rhagfyr 1).
Mae’r datblygiadau diweddaraf ym maes prosesu iaith naturiol a deallusrwydd artiffisial wedi gweddnewid y maes, gan beri i ni ailystyried yr hyn y gall cyfrifiadur ei gyflawni.
Ond mae heriau penodol yn wynebu ieithoedd sydd â llai o adnoddau, a bydd modd trafod hyn a mwy yng nghyd-destun y Gymraeg a ieithoedd Celtaidd eraill, gan gynnwys y Llydaweg, y Gernyweg a’r Wyddeleg.
Un o brif siaradwyr y Symposiwm fydd Colin Jarvis, cynrychiolydd o gwmni OpenAI, sydd â diddordeb personol yn yr ieithoedd Celtaidd.
Bydd yn ystyried y modd y gall academia ac OpenAI wella’r gefnogaeth ar gyfer ieithoedd llai eu hadnoddau mewn perthynas â’r modelau iaith mawr sy’n pweru deallusrwydd artiffisial gyfoes.
Bydd Mélanie Juitteau o Ganolfan Genedlaethol Ffrainc ar gyfer Ymchwil Gwyddonol (CNRS) a Loïc Grobol o Brifysgol Paris Nanterre yn trafod y gwersi wnaethon nhw eu dysgu wrth ddatblygu prosesu iaith naturiol ar gyfer y Llydaweg, a’r heriau o weithio mewn cyd-destun lle mae’r adnoddau yn brin.
Bydd Emily Barnes, Athro Cynorthwyol mewn Addysg Iaith yn Trinity College yn Nulyn yn ehangu ar y persbectif Celtaidd wrth iddi drafod ei gwaith yn cynyddu’r ddarpariaeth Wyddeleg ym maes technolegau cynorthwyol ar gyfer defnyddwyr sydd ag anghenion penodol.
‘Ffynnu’
“Dyma drydydd Symposiwm academaidd y gyfres ac mae’n darparu cyfle i academyddion i rannu ymchwil a fydd yn siapio maes technolegau iaith yn y dyfodol, nid yn unig i’r Gymraeg, ond hefyd i ieithoedd eraill tebyg fel y Llydaweg, yr Wyddeleg a’r Gernyweg, lle mae angen i ni sicrhau bod y dechnoleg, y data a’r amddiffynfa ddeddfwriaethol briodol yn eu lle er mwyn caniatáu iddynt ffynnu,” meddai Gruffudd Prys, Pennaeth yr Uned Technolegau Iaith.
Yn ôl Jeremy Miles, Gweinidog Addysg a’r Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru “wedi hir gydnabod yr angen i fuddsoddi mewn technolegau iaith i’r Gymraeg”.
“Rwy’n falch iawn i allu noddi’r symposiwm heddiw,” meddai.
“Gobeithio bydd hwn yn gyfle i drafod a rhannu syniadau newydd achos mae cydweithio fel hyn yn mynd i arwain at well dechnoleg Cymraeg.”