Mae’r Senedd wedi clywed y dylai Cymru ac Iwerddon geisio gwell cysylltiadau â’i gilydd ar adeg hanfodol yn hanes y ddwy genedl.
Fe wnaeth Delyth Jewell arwain dadl ar adroddiad, yn dilyn ymchwiliad i’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon.
Pwysleisiodd cadeirydd y Pwyllgor Materion Rhyngwladol y cysylltiadau hynod gryf rhwng Cymru ac Iwerddon ar sail hanes, iaith, diwylliant, cerddoriaeth a mwy.
Cododd dirprwy arweinydd Plaid Cymru bryderon am ymateb Llywodraeth Cymru i rai o argymhellion y pwyllgor.
Dywedodd wrth Aelodau’r Senedd nad yw gweinidigion am ymrwymo i fwy o ohebu ar gysylltiadau rhwng Cymru ac Iwerddon o ganlyniad i gyfyngiadau ariannol.
“Rydym yn credu bod Llywodraeth Cymru’n gwneud anghyfiawnder â hi ei hun drwy beidio â hoelio’i dull strategol tuag at ei pherthnasau a chyfleu’r gwaith hwn yn fwy llawn,” meddai.
‘Cyfleoedd’
Mae Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru’n dadlau na fu’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon erioed yn bwysicach.
“Mae Brexit wedi dod â newidiadau, ac mae cwestiynau o hyd o ran sut adnoddau fydd ar gyfer cydweithio rhwng y ddwy genedl yn y blynyddoedd i ddod,” meddai wrth y Siambr.
“Dywedodd staff Coleg Prifysgol Dulyn wrthym nad yw cyfleoedd wedi dod i ben, er bod arian yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer rhai prosiectau wedi gorffen.”
Tynnodd Delyth Jewell at y ffaith fod £150,000 wedi’i neilltuo eleni ar gyfer Agile Cymru, sy’n cefnogi cydweithio economaidd dros Fôr Iwerddon.
Fodd bynnag, rhybuddiodd y gallai’r gwaith gael ei danseilio gan awgrymiadau na fydd cyllid ar gael y flwyddyn nesaf gan y byddai’n golygu ailflaenoriaethu cyllidebau eraill.
Brexit
Dywedodd Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, nad oes yna’r un berthynas hirach na honno rhwng Cymru ac Iwerddon, gan ei disgrifio hi fel “pont fyw sy’n mynd yn ôl drwy ein hanes”.
Cododd y Prif Weinidog gyllideb 2021-25 gafodd ei chytuno rhwng llywodraethau Cymru ac Iwerddon.
“Yr allwedd oedd Brexit a’n hymdrechion i leihau’r niwed mae Brexit wedi’i wneud i bobol yma yng Nghymru, ond hefyd i bobol yn Iwerddon,” meddai.
Dywedodd ei bod hi’n adeg arbennig o gyfoethog i’r berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, gyda gweinidogion yn cyfarfod â’u cydweithwyr Gwyddelig wyneb yn wyneb bedair gwaith eleni.
Dywedodd wrth y Senedd iddo fynychu Cyngor Prydain-Iwerddon yr wythnos ddiwethaf, gan gyfarfod â Leo Varadkar, ei debyg yn Iwerddon, a siarad ag arweinwyr pedair plaid Gogledd Iwerddon.
Dywedodd fod cydweithio ar brosiectau ynni adnewyddadwy’r dyfodol yn y “triongl aur” rhwng porthladdoedd Cymru, Iwerddon a Llydaw ar yr agenda.
Rhybuddiodd y byddai angen cytundeb Llywodraeth Iwerddon o ran rhai o argymhellion y pwyllgor, a chytundeb Cyngor Prydain-Iwerddon mewn un achos.
Tynnodd Tom Giffard o’r Ceidwadwyr sylw at gyfleoedd sy’n codi drwy Brexit, er bod rhai “trafferthion” yn codi o’r trawsnewidiad.
Tynnodd e sylw at y ffaith fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi sicrhau cyfranogiad yn rhaglen ymchwil ac arloesi Horizon drwy gytundeb â’r Undeb Ewropeaidd.
Cysylltiadau addysg
Galwodd Heledd Fychan, fu’n byw yn Iwerddon am naw mlynedd, am ragor o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru fynd i brifysgolion Iwerddon ac i’r gwrthwyneb.
“Yn aml iawn, caiff ein myfyrwyr eu hannog i fynd i Loegr, ond yn yr un modd mae gan y cysylltiadau hynny efo Iwerddon lawer iawn o botensial,” meddai Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ganol De Cymru.
Gan dynnu sylw at y ffaith nad yw Cymru’n anfon cynifer o aelodau i Gynulliad Seneddol Prydain-Iwerddon ag y gallai, galwodd Heledd Fychan am weithredu brys i fynd i’r afael â’r bwlch.
Dywedodd David Rees ei fod e wedi arwain dirprwyaeth y Senedd, oedd yn cynnwys Darren Millar, Sarah Murphy a Heledd Fychan, oedd wedi mynd i gyfarfod BIPA yn Kildare ddiwedd mis Hydref.
Dywedodd yr aelod Llafur o’r meinciau cefn fod pynciau pwysig megis twristiaeth, ail gartrefi ac ynni glân wedi’u trafod.
‘Y ffocws lleiaf’
Cododd Samuel Kurtz, fu’n gweithio ar fferi’n croesi Môr Iwerddon rhwng Sir Benfro a Rosslare, bryderon ynghylch diffyg gwaith ar gysylltiadau economaidd.
“Roedd tystiolaeth wnaethon ni ei derbyn yn datgelu’r ffocws lleiaf ar y cysylltiadau economaidd a masnachol yn null Llywodraeth Cymru tuag at berthnasau rhwng Cymru ac Iwerddon,” meddai am gynnwys yr adroddiad.
Tynnodd y Ceidwadwr sylw at gyfleoedd ynni amlwg, a rôl porthladdoedd rhydd newydd Cymru.
Fe wnaeth Alun Davies, Aelod Llafur o’r Senedd dros Flaenau Gwent, ddisgrifio’r adroddiad fel sêl bendith i waith Llywodraeth Cymru ar adfywio’r berthynas.