Mae gofyn i uwch gynghorwyr Ceredigion gefnogi cynnydd yn y premiwm treth gyngor ar ail gartrefi yn y sir i 100%, gyda chynnydd pellach i ddilyn.
Mae gan Geredigion bremiwm o 25% ar hyn o bryd ar ail gartrefi ac eiddo gwag, tra bod gan Sir Benfro gyfagos bremiwm o 100% ar gyfer ail gartrefi.
Mae rheolau treth newydd Llywodraeth Cymru’n rhoi’r hawl i awdurdodau lleol gasglu premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor hyd at 300%.
Fe wnaeth Ceredigion, a Sir Benfro gyfagos, gynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddar ar newidiadau posib i’r premiwm treth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo gwag, ac mae gofyn i uwch gynghorwyr Sir Benfro gefnogi argymhelliad yr wythnos nesaf o bremiwm o 150% “o leiaf” ar gyfer ail gartrefi.
Yr argymhelliad yw y dylai aelodau Cabinet Cyngor Sir Ceredigion, fydd yn cyfarfod ar Ragfyr 5, gefnogi cynnydd yn y premiwm ar ail gartrefi mewn dau gam: i 100% o Ebrill 1 y flwyddyn nesaf, ac i 150% o Ebrill 1, 2025.
Mae yna argymhelliad hefyd y dylai aelodau gefnogi cynnydd yn y premiwm treth ar gyfer eiddo gwag, o’r 25% presennol i 100% ar gyfer eiddo fu’n wag ers pum mlynedd, i 150% ar gyfer pump i ddeng mlynedd, ac i 200% dros ddeng mlynedd.
Byddai unrhyw sêl bendith gan y Cyngor ar ffurf argymhelliad i gyfarfod y Cyngor llawn ar Ragfyr 14, lle byddai penderfyniad terfynol yn cael ei wneud.
Adroddiad ar yr ymgynghoriad cyhoeddus
Dywed adroddiad ar gyfer aelodau Cabinet Ceredigion fod yr ymgynghoriad cyhoeddus diweddar wedi denu 1,403 o ymatebion, ac nad yw’r rhan fwyaf (72%) sy’n berchen ar eiddo gwag hirdymor yn credu ei bod hi’n briodol cynyddu’r premiwm, gyda mwyafrif (85%) o’r rheiny sy’n berchen ar y fath eiddo’n gwrthwynebu cynnydd.
O ran ail gartrefi, roedd ychydig dros hanner yr ymatebwyr nad ydyn nhw’n berchennog yn credu bod cynnydd yn briodol, gan ffafrio cynnydd i 100%, neu 150% hyd yn oed, gyda 94% o berchnogion ail gartrefi ddim eisiau cynnydd.
“Yn amlwg, doedd perchnogion eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi ddim yn cefnogi cynnydd yn y premiwm treth gyngor ar y cyfan, ond yn y ddau achos roedd y mwyafrif o’r rheiny nad ydyn nhw’n berchnogion yn gefnogol,” medd yr adroddiad.
“Mae mynd i’r afael â materion ynghylch ail gartrefi, perchnogaeth llety gwyliau a throi eiddo preswyl yn llety gwyliau yn flaenoriaeth allweddol o fewn Strategaeth Gorfforaethol 2022-27 y Cyngor, sydd wedi’i chymeradwyo.
“Mae hyn, a chynyddu cyflenwad ac amrediad yr opsiynau ar gyfer tai fforddiadwy yng Ngheredigion yn rhan allweddol o’r Amcan Llesiant Corfforaethol – ‘Creu Cymunedau Cynaliadwy a Gwyrdd sydd wedi’u Cysylltu’n Dda â’i Gilydd’.
“Mae dyheadau ac amcanion polisi Ceredigion yn eistedd ochr yn ochr â bwriad polisi Llywodraeth Cymru gyda deddfwriaeth Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Anheddau Gwag Hirdymor ac Anheddau a Feddiennir yn Gyfnodol) (Cymru) 2022 yn anelu i ddod ag eiddo gwag hirdymor yn ôl i ddefnydd ac i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy ac i gynyddu cynaliadwyedd cymunedau lleol.
“Wedi rhoi ystyriaeth briodol i ystod o ffactorau, gan gynnwys (ond nid o reidrwydd wedi’u cyfyngu i) canlyniadau’r ymgynghoriad cyhoeddus, sefyllfa awdurdodau lleol eraill a safbwyntiau gweithgor trawsbleidiol yr aelodau, mae’r Cabinet yn credu y byddai cynnydd yn y premiwm treth gyngor ar eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi’n helpu i gyflawni’r amcanion polisi hynny.
“Mae’r Cabinet hefyd yn credu y byddai dull graddedig yn briodol drwy ystyried faint o amser fu’r eiddo’n wag mewn perthynas ag eiddo gwag hirdymor, a thrwy gyflwyno cynnydd ar ail gartrefi dros ddwy flynedd ariannol.”
Sefyllfa’r sir
Mae’r ardaloedd â’r gyfradd uchaf o ail gartrefi yn y sir yn rhai arfordirol ar y cyfan, gyda’r gyfradd uchaf yng Ngheinewydd (27.2%), wedyn Llangrannog (17.1%), y Borth (14.1%), Pontarfynach (11%), Penbryn (9.6%), Aberaeron (9.1%) ac Aberporth (8.4)%.
Mae mwy o eiddo gwag hirdymor mewn ardaloedd trefol: Aberporth (2.2%), Aberystwyth (1.8%), Aberteifi a Llandysul (1.5%).