Bydd gwersyll Pontins Prestatyn yn cau ar unwaith, ar ôl dros croesawu ymwelwyr ers dros 50 mlynedd.
“Mae’n ddrwg gennym eich hysbysu y bydd ein parciau ym Mhrestatyn a Camber Sands yn cau ar unwaith,” meddai llefarydd ar ran Pontins wrth gyhoeddi’r newyddion.
“Bydd ein tîm yn cysylltu â chwsmeriaid y bydd eu harchebion yn cael eu heffeithio wrth i ni gau, a byddan nhw’n cael eu had-dalu.
“Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra gaiff ei achosi.”
Bydd gwersyll arall, yng ngorllewin Sussex, hefyd yn cau yn annisgwyl.
Dim ceiswyr lloches
Dywed James Davies, Aelod Seneddol Ceidwadol Dyffryn Clwyd, ei fod o wedi derbyn cadarnhad gan y Swyddfa Gartref na fydd y gwersyll yn cael ei ddefnyddio i gartrefu ceiswyr lloches.
Daw hyn wedi i Lywodraeth San Steffan ddefnyddio gwesty’r Hilton yng Nghonwy ar gyfer ceiswyr lloches yn flaenorol, cyn iddo ailagor fel gwesty eleni.
“Mae’r cyhoeddiad y bydd Pontins Prestatyn Sands yn cau yn annisgwyl,” meddai ar Facebook.
“Rwy’n gofyn am ragor o wybodaeth gan y perchnogion, Britannia Hotels.
“Mae’r safle wedi bod ag enw drwg ers peth amser ac rwy’n gobeithio y bydd y newyddion hyn yn dod â’r potensial ar gyfer newid i’w groesawu er budd y dref.”
‘Ddim yn syndod’
Mae Gareth Davies, yr Aelod Ceidwadol o’r Senedd dros Ddyffryn Clwyd, wedi mynegi ei dristwch yn sgil y newyddion.
“Newyddion trist a sydyn ynghylch cau Pontins ym Mhrestatyn, ond ddim yn syndod mewn rhai ffyrdd, gan eu bod wedi tanfuddsoddi yno ers blynyddoedd,” meddai.
“Mae fy meddyliau gyda’r staff, eu teuluoedd a phawb sydd yn ymwneud â Pontins Prestatyn yn y cyfnod anodd hwn.”
Does dim awgrym eto ar gyfer beth fydd safle’r gwersyll, gafodd ei adeiladu yn 1971, yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol.