Mae pryderon wedi’u codi ynghylch arian ychwanegol i adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd ym Mlaenau Gwent.

Yng nghyfarfod Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent ddydd Mercher (Tachwedd 29), cafodd pryderon eu codi ynghylch costau cynyddol sy’n achosi oedi cyn adeiladu ysgol gynradd Gymraeg newydd i 210 o ddisgyblion yn Nhredegar.

Daeth hyn yn ystod eitem oedd yn edrych ar gyllideb gyfalaf y Cyngor ar gyfer prosiectau adeiladu fel yr oedd y sefyllfa ddiwedd mis Medi.

Dros gyfnod o ychydig dros flwyddyn, mae costau adeiladu’r ysgol wedi mwy na dyblu o ryw £6.2m fis Medi y llynedd i £13.5m erbyn hyn.

Cafodd yr arian cychwynnol ei gytuno sawl blwyddyn yn ôl gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’u Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, sydd bellach yn cael ei hadnabod fel y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy.

Addysg a’r Gymraeg

Yn y cyfarfod, tynnodd Steve Thomas, arweinydd y Cyngor, sylw at y ffaith, o dan doriadau cyllideb Llywodraeth Cymru gafodd eu cyhoeddi fis Hydref, y byddai gostyngiad yn eu cyllid cyfalaf ar gyfer prosiectau addysg a’r Gymraeg.

“Fydd hyn ddim yn effeithio ar gyllid rydyn ni eisoes wedi’i gytuno a’i ddyfarnu, a gall ceisiadau ar gyfer cyllid newydd neu ychwanegol gael eu heffeithio,” meddai.

“Dw i’n deall fod pethau wedi mynd i fyny gyda’r [argyfwng] costau byw,” meddai’r Cynghorydd Haydn Trollope, yr Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.

“Pan fyddwn ni’n adeiladu’r ysgol gynradd Gymraeg newydd, beth sy’n digwydd os awn ni dros y gyllideb?”

Dywedodd Rhian Hayden, y Prif Swyddog Adnoddau, y “byddai angen i ni adnabod unrhyw or-wariant cyn gynted ag y gallwn ni, a gall fod angen i ni wneud cais am arian ychwanegol gan Lywodraeth Cymru”.

“Os na ddaw hynn, byddai angen i ni ailystyried y prosiect ac edrych i weld a oes yna ryw ffordd o ailddylunio’r prosiect a lleihau costau.

“Gall fod angen i ni edrych ar brosiectau cyfalaf eraill, a naill ai oedi cyn eu dechrau nhw neu eu gohirio nhw i wneud ein hadnoddau ein hunain ar gael i ariannu’r gorwariant hwnnw.”

Dywedodd y Cynghorydd Steve Thomas ei fod yn “credu” y byddai Llywodraeth Cymru’n ystyried prosiect adeiladu’r ysgol yn “flaenoriaeth”.

Fe wnaeth cynghorwyr gymeradwyo’r adroddiad cyllideb cyfalaf.

Penodi contractiwr

Mae’r Gwasanaeth Gohebu ar Ddemocratiaeth Leol yn deall bod contractiwr wedi’i benodi i adeiladu’r ysgol, fydd yn cael ei hadnabod wrth yr enw Ysgol Gymraeg Tredegar.

Yn wreiddiol, roedd disgwyl i’r ysgol gael ei hadeiladu erbyn Ebrill 2024.

Ond mae hyn wedi’i ohirio gan flwyddyn, gyda dyddiad gorffen o wanwyn 2025 yn cael ei grybwyll gan y Cyngor.

Bydd unrhyw blant sydd eisoes wedi’u cofrestru gan yr ysgol yn cael eu dysgu mewn adeilad dros dro yn Nhŷ Bedwellte yn y dref.

Cynlluniau’r ysgol

Fis Medi y llynedd, fe wnaeth Pwyllgor Cynllunio’r Cyngor gymeradwyo cais ar gyfer ysgol gynradd â chyfleuster gofal plant a meithrinfa ar safle tir llwyd ar Ffordd y Siartwyr.

Mae’r cynlluniau sydd wedi’u cymeradwyo’n cynnwys ardal ollwng newydd, parcio ar gyfer staff, ardal i fysiau droi, ardaloedd chwarae amlbwrpas, ac adleoli’r maes chwarae presennol.

Mae’r ysgol wedi’i disgrifio fel “egin ysgol”, sy’n golygu y byddai’n dechrau â disgyblion Blynyddoedd Cynnar a Derbyn, gan ehangu fesul blwyddyn drwy’r blynyddoedd ysgol.

Bydd yn cymryd chwe blynedd i’w llenwi â disgyblion tair i unarddeg oed.

Byddai’r ysgol yn cael ei chyfuno ag unig ysgol gynradd Gymraeg bresennol y bwrdeistref sirol, sef Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nant-y-glo.

Mae hyn yn golygu y byddai gan y ddwy ysgol yr un corff llywodraethu a phennaeth.