Mae cynghorydd yng Nghaernarfon yn dweud bod Banc Lloyds wedi cefnu ar bobol, ar ôl iddyn nhw gyhoeddi bod cangen Caernarfon am gau ei drysau.
Mae disgwyl i’r gangen yn y dref gau am y tro olaf ym mis Ebrill, wrth iddyn nhw ddweud bod llai o gwmseriaid yn defnyddio adeiladau banciau erbyn hyn.
Cafodd canghennau Pwllheli a Chaergybi eu cau ym mis Ionawr, ac ar ôl i gangen Caernarfon gau ei drysau bydd y gangen agosaf i gwsmeriaid ym Mangor.
Mae Hywel Williams a Siân Gwenllian, Aelod Seneddol ac Aelod o’r Senedd yr ardal, wedi beirniadu’r penderfyniad.
Arian cyhoeddus
Un arall sydd wedi ymateb yw’r Cynghorydd Dewi Jones.
Yn ôl y cynghorydd sy’n cynrychioli ward Peblig Caernarfon, rhoddodd y llywodraeth arian trethdalwyr i achub Lloyds yn ystod y dirwasgiad ac mae rhai pobol yn dibynnu ar fancio wyneb yn wyneb gan fod bancio yn y cnawd yn well iddyn nhw mewn rhai achosion.
“Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig cofio, ’nôl yn 2008 ffor’na, yn y dirwasgiad ddaru’r llywodraeth roi arian cyhoeddus i fanciau yn cynnwys Lloyds,” meddai wrth golwg360.
“£20bn i mewn i Lloyds, a thynnu 43% o’r cwmni er mwyn eu hachub nhw i wneud yn siŵr fod o ddim yn cau.
“Pan oedden nhw angen cymorth, roedd y Llywodraeth a’r trethdalwyr yno i’w cynorthwyo nhw.
“Mae o’n bechod bod y banciau yma yn teimlo bo nhw ddim ar ochr pobol.
“Mae eisiau iddyn nhw gofio bod pobol yno iddyn nhw pan oedden nhw angen cymorth.
“Mae’n biti, pan mae amseroedd yn anodd, bo nhw’n methu gwneud yr un fath.”
Pobol fregus
Yn ôl Dewi Jones, mae pobol fregus yn enwedig am gael eu heffeithio, ac mae rhai achosion lle mae angen mynd i mewn i gangen banc.
Hefyd, dydy gwasanaethau Cymraeg ddim ar gael dros y ffôn bob amser.
“Mae pobol hŷn yn enwedig yn llai tebygol o ddefnyddio bancio ar-lein,” meddai.
“Mae o’n sicr am gael effaith ar bobol hŷn.
“Dim jest pobol hŷn, mae yna nifer o bobol, pobol fregus efallai, sydd ddim efo mynediad i dechnoleg i gael o ar y we.
“Efallai bo ni ddim yn clywed digon o sôn am digital poverty – pobol sydd heb ddyfais glyfar neu’n methu fforddio cysylltiad i’r we.
“Mae yna gysylltiadau gwe cyhoeddus mewn caffis, ond efo bancio mae o’n bwysig bo ti’n gallu gwneud o mewn rhywle preifat.
“Mae hwnna’n rywbeth i’w ystyried.
“Rwy’n defnyddio bancio ar-lein, ond mae yna achosion wedi codi yn y flwyddyn ddiwethaf lle dw i wedi gorfod mynd mewn i gangen banc i gael gwasanaeth a chyngor.
“Hefyd, cael cymorth trwy gyfrwng y Gymraeg. Os ydym yn ffonio’r gwasanaeth yma, dydyn nhw ddim yn Gymraeg yn aml.
“Rydym wedi gweld beth sydd wedi digwydd efo HSBC.
“Yn rhywle fel Caernarfon, rydym yn gallu cael gwasanaeth Cymraeg lleol.
“Mae staff mewn canghennau lleol yn adnabod eu cwsmeriaid ac yn gallu eu rhoi nhw ar ben ffordd.
“Mae’n bwysig iawn bod banciau yn aros ar agor mewn trefi.
“Mae’n bwysig bod pobol yn gallu mynd lawr y stryd fawr a siarad efo pobol wyneb yn wyneb.
“Dydy gwneud pethau dros y we neu ar y ffôn ddim yn cymharu â siarad wyneb yn wyneb, yn enwedig pan mae yna broblem ac yn enwedig i bobol hŷn, pobol fregus, pobol sydd efo gwahanol gyflyrau, pobol sy’n byw efo awtistiaeth…
“I rywun sydd efo problem sydd eisiau ei datrys, mae’n haws ei datrys wyneb yn wyneb a siarad efo rhywun go iawn.”