Mae’r cytundeb rhwng cwmni dur Tata a’r Deyrnas Unedig yn “annerbyniol”, medd undebau llafur.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i roi £500m tuag at gynlluniau Tata i fuddsoddi yn safle Port Talbot er mwyn datgarboneiddio’r safle.
Fodd bynnag, mae undebau yn pryderu y bydd y buddsoddiad yn arwain at golli 3,000 o swyddi.
Yn ogystal, mae rhai’n pryderu nad yw’n syniad doeth gosod ffwrnais arc trydan sydd heb gael eu profi yn unman yn flaenorol.
Wrth siarad gerbron pwyllgor y Senedd, dywedodd ysgrifennydd cyffredinol cynorthwyol yr undeb Cymunedol bod yr holl undebau yn gytûn mewn gwrthwynebu’r cynnig gwreiddiol.
Yn ôl Alasdair McDiarmid, y “consensws cyffredinol ar draws y diwydiant” yw nad y ffwrneisi arc trydan yw’r dewis cywir.
“Rydyn ni’n rhoi ein hwyau i gyd yn y fasged ffwrnais arc trydan,” meddai.
“Nid ydym erioed wedi gweithredu ffwrnais arc drydan o’r blaen.”
“Traed moch”
O ganlyniad, mae undebau wedi cynnig ail gynllun fyddai’n golygu cyfnod pontio graddol ac osgoi diswyddiadau gorfodol.
Dywed Charlotte Brumptom-Childs o undeb GMB na fu unrhyw ymgynghori rhwng yr undebau a Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn sgil datgarboneiddio.
Mae undeb GMB yn cefnogi’r cynnig o gyfnod pontio graddol, er nad oes amserlen ar gyfer cyflwyno unrhyw gynigion ar hyn o bryd.