Mae datganoli “yn y gwaed” i’r Blaid Lafur, yn ôl Cwnsler Cyffredinol Cymru.
Fe fu Mick Antoniw, Aelod Llafur o’r Senedd dros Bontypridd, yn traddodi Darlith Goffa Tudor Watkins yn Aberhonddu neithiwr (nos Iau, Tachwedd 30), gan bwyso a mesur taith Cymru ers datganoli hyd yn hyn, edrych ar gamau nesa’r daith, ac archwilio sut y bydd argymhellion Adroddiad Brown, sy’n edrych ar ddyfodol y Deyrnas Unedig, yn ganolog i ddyfodol Cymru.
Dywedodd gerbron cynulleidfa o gefnogwyr Llafur y bydd y blaid yn gweithredu ar ddatganoli pan fyddan nhw’n dod i rym yn San Steffan.
“Hanfodol” gweithredu ar argymhellion
“Adroddiad Brown yw cyfraniad mwyaf cynhwysfawr a radical y Blaid Lafur i ddiwygio cyfansoddiadol ers sawl cenhedlaeth,” meddai Mick Antoniw.
“Mae hefyd yn lasbrint hanfodol ar gyfer y Llywodraeth Lafur nesaf, i’w galluogi hi i achub y blaen a mapio’r hyn all dyfodol y Deyrnas Unedig fod.
“Byddai ei argymhellion yn trawsnewid Cymru a’r Deyrnas Unedig, gan newid yn sylfaenol ddosbarthiad, gweithrediad a gweinyddiaeth llywodraeth a grym.
“Mae’n hanfodol, nid yn unig i Gymru ond yr Alban a rhanbarthau Lloegr hefyd, fod ei argymhellion yn cael eu gweithredu.”
‘Dod â grym mor agos â phosib at y bobol’
Mae cryn ddyfalu eisoes ynghylch cynnwys maniffesto’r Blaid Lafur ar gyfer yr etholiad cyffredinol nesaf, ac ynghylch rôl argymhellion terfynol Adroddiad Brown sydd i ddod yn y flwyddyn newydd.
“Dw i’n hyderus y bydd y Llywodraeth Lafur nesaf yn parhau i hyrwyddo’r egwyddor anhepgor nad yw, ac na all penderfyniadau ynghylch dyfodol Cymru – na’r Alban na rhanbarthau Lloegr, o ran hynny – fod yn unig faes San Steffan.
“Dw i’n hyderus oherwydd mai greddf Llafur yw dod â grym mor agos â phosib at y bobol.
“Mae hanes yn dangos i ni fod datganoli yng ngwaed Llafur.”