Mae Dominic Raab wedi cael ei gyhuddo o “anwybodaeth” ar ôl cyfeirio at Blaid Cymru fel y blaid sydd mewn grym yng Nghymru.
Daeth sylwadau cyn-Ddirprwy Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth iddo fe roi tystiolaeth i’r ymchwiliad Covid-19.
Cafodd ei gywiro gan y Farwnes Hallett sy’n cadeirio’r ymchwiliad, wrth iddo gyfeirio at syniadau gwahanol Plaid Cymru a’r SNP wrth geisio mynd i’r afael â’r pandemig.
“Dylwn i jyst ddweud, Mr Raab, cyn i fi gael Mr Drakeford ar y ffôn, eich bod chi wedi cyfeirio ddwywaith at Blaid Cymru fel Llywodraeth yng Nghymru,” meddai wrth ei gywiro.
“Llywodraeth Lafur yw hi.”
Beirniadaeth
Wrth ymateb, fe wnaeth Rhun ap Iorwerth, arweinydd Plaid Cymru, bostio fideo o’r sylwadau ar X (Twitter gynt).
“Dyma’r rhan yn ymchwiliad Covid y Deyrnas Unedig lle mae’r cyn-Ddirprwy Brif Weinidog yn dangos nad oedd e’n gwybod pwy sy’n llywodraethu Cymru,” meddai.
“Llafur yw hi, Mr Raab.
“Plaid Cymru yw’r rhai oedd eisiau ymchwiliad i Gymru fel y gallen ni asesu ymdriniaeth y Llywodraeth Lafur ohono fe ac fel nad oedd angen i ni ddelio efo’r anwybodaeth yma.”
Dywed YesCymru fod sylwadau Dominic Raab “yn dweud y cyfan”, a’i fod e “wedi anghofio’n barhaus pwy sy’n rhedeg Llywodraeth Cymru”.
“Roedd Cymru bob amser yn ôl-ystyriaeth yn yr Undeb yma, os oes yna feddwl amdanon ni o gwbl,” meddai’r mudiad annibyniaeth.
“Mae annibyniaeth yn normal. Dydy hyn ddim.”