Mae parc gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru yn bwriadu ail adeilad ar eu safle yn Ynys Môn.

Gan ganolbwyntio ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel, a datblygu cyfleoedd sgiliau a chyflogaeth, bydd M-SParc 2.0 yn helpu i “danio uchelgais ac arloesedd i greu Cymru gynaliadwy”.

Bydd y gofod ychwanegol yn galluogi i M-SParc barhau i sicrhau bod gyrfaoedd sy’n talu’n dda yn cael eu creu yn y rhanbarth, meddai Prifysgol Bangor, sy’n gyfrifol am y parc.

Mae’r gyrfaoedd hyn yn cynnwys swyddi technegol ac ymchwil, ond hefyd y swyddi eraill sydd eu hangen mewn cwmnïau, gan gynnwys marchnata, cyfrifyddu a chymorth gweinyddol.

Mae cwmnïau yn M-SParc yn talu cyflogau sy’n fwy na £5,000 y flwyddyn yn uwch na chyfartaledd Cymru.

Dydy’r datblygiad ond yn ei gamau cynnar, ond mae’r adeilad newydd eisoes wedi cael caniatâd cynllunio amlinellol, a bydd yn cael ei ddylunio i gyd-fynd â dyluniad tirwedd bresennol safle’r parc gwyddoniaeth.

Sefydlu M-SParc

Mae gan M-SParc eisoes dîm ‘Egni’ Carbon Isel sydd wedi bod yn ymchwilio ac yn cynnal digwyddiadau yn y sector, yn cynnal adolygiadau Carbon Isel ar gyfer cwmnïau ar draws y rhanbarth, ac yn gweithio tuag at sicrhau mai M-SParc ydy’r parc gwyddoniaeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyrraedd Sero Net erbyn 2030.

Ers 2018, mae dros 200 o yrfaoedd newydd wedi cael eu creu gan M-SParc, trwy fentrau fel ‘Dewch yn Ôl’ i helpu’r rheini sydd wedi gadael i symud yn ôl i Ogledd Cymru, a’r ‘Academi Sgiliau’ i gefnogi pobol i ymuno â diwydiant.

Mae M-SParc wedi dyblu maint y tîm yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’n parhau i dyfu.

Dim rhaid gadael y rhanbarth i chwilio am waith

Dywedodd Pryderi ap Rhisiart, Rheolwr Gyfarwyddwr M-SParc: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at wneud y cyhoeddiad hwn o’r diwedd, ac yn enwedig wrth i ni glywed am statws Porthladd Rhydd Ynys Môn, a’r brys cynyddol ynghylch datgarboneiddio’r wlad, ni all hyn ddigwydd ar amser gwell.

“Bydd yr adeilad newydd hefyd yn hwyluso ein gwaith i bontio’r bwlch sgiliau yn y rhanbarth ac i ddarparu cyflogaeth o werth uchel.

“Mae’n hanfodol fod pobl ifanc yn ymwybodol o’r cyfleoedd am yrfaoedd yn y rhanbarth, a’u bod yn gwybod nad oes rhaid iddynt adael i ddod o hyd i waith.

“Rydyn ni hefyd wedi mynd â M-SParc ar draws y rhanbarth i sicrhau bod pawb yn gallu manteisio ar gyfleoedd yn y sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg, ni waeth pa mor wledig yw eu lleoliad.

“Mae’n gyfnod cyffrous iawn i fyw yng Ngogledd Cymru!”

Dywedodd Is-ganghellor Prifysgol Bangor, Yr Athro Edmund Burke: “Fel Prifysgol, rydyn ni’n falch iawn o weld ein Parc Gwyddoniaeth yn datblygu cynlluniau i dyfu ac yn dangos uchelgais wirioneddol ar gyfer economi Gogledd Cymru.

“Bydd yr ehangu hwn yn parhau i greu gyrfaoedd sy’n talu’n dda i bobl ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, gan ganolbwyntio hefyd ar gefnogi cwmnïau ac ymchwil yn y sector carbon isel drwy adeiladu ar gryfderau’r Brifysgol.

“Mae’r cynlluniau ar gyfer datblygu yn cyd-fynd â gwerthoedd Prifysgol Bangor a’n strategaeth ar gyfer y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol a gaiff y prosiect hwn ar y gymuned.”