Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r Arglwydd John Morris, “gwleidydd o fri” a “thad datganoli”, sydd wedi marw yn 91 oed.

Roedd John Morris yn gyn-Aelod Seneddol Llafur Aberafan, a bu’n cynrychioli’r etholaeth yn San Steffan rhwng 1959 a 2001.

Bu hefyd yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru rhwng 1974 a 1979, pan ddaeth yn amlwg iawn yn yr ymgyrch ddatganoli.

Yn wreiddiol o Sir Aberteifi, cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn astudio yng Ngholeg Gonville a Caius yng Nghaergrawnt.

‘Gwleidydd o fri’

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd y cyn-Aelod Seneddol Llafur, Gwynoro Jones, bod cyfraniad John Morris i Gymru yn un “nodedig”.

“Mae’n ddiwrnod trist iawn, wrth gwrs. John wedi bod yn wleidydd o fri am dros hanner canrif, yn Aelod Seneddol am ddeugain mlynedd, Tŷ’r Arglwyddi am tua ugain mlynedd a mwy, wedi bod yn weinidog yn llywodraethau [Harold] Wilson, [James] Callaghan, a hyd yn oed Tony Blair, felly roedd e wedi goroesi cryn dipyn o bobol,” meddai wrth golwg360.

“Oherwydd bod e mor dda, ac roedd e yn berson da iawn fel gwleidydd, fel gweinidog mewn llywodraeth, dyna pam bod tri phrif weinidog wedi’i ddewis e.

“Cwrddes i John am y tro cyntaf bydden i’n dweud tua 1968, 1969 pan oeddwn i’n gyfrifol am baratoi polisi’r Blaid Lafur yng Nghymru tuag at ddatganoli, a dealles i bryd hynny bod ei galon e yng Nghymru, a hefyd yng Ngheredigion er taw Aelod Seneddol Aberafan oedd e.

“Peth diddorol iawn i gofio yw buodd yna ddau gyfnod yn hanes John pan fu bron iddo beidio â bod yn Aelod Seneddol.

“Ymgeisiodd e gyntaf yn erbyn Lady Megan, pan fu farw Rhys Hopkin Morris yn 1957, a gollodd e o un bleidlais i Lady Megan. Galle fe fod wedi bod yn Aelod Seneddol Caerfyrddin, ac nid Aelod Seneddol Aberafan.

“Ac er mwyn bod yn Aelod Seneddol Aberafan, gorfod iddo fe guro Llew Heycock – cawr ym Mhort Talbot yn y dyddiau hynny – ac eto ennill o un bleidlais.”

‘Un o dadau datganoli’

Yr atgof pennaf wrth edrych yn ôl oedd cyfraniad John Morris at yr ymgyrch ddatganoli, meddai Gwynoro Jones.

“Buodd e’n weinidog ar ynni, ar bŵer, ar drafnidiaeth, ar amddiffyn, ond dewiswyd e yn Chwefror 1974 i fod yn ysgrifennydd gwladol Cymru ac mi gafodd gyfle i osod mewn yr holl syniadau oedd gyda fe am ddatganoli,” meddai.

“Roedd y syniad o Gomisiwn Cyfansoddiadol, syniad Elystan [Morgan] a John Morris oedd hwnna, y ddau ohonyn nhw yn cytuno ac yn trafod gyda’i gilydd pan oedden nhw ar wyliau lawr yng Nghernyw, ac yn perswadio Jim Callaghan i osod comisiwn ar y cyfansoddiad.

“Dyna le oedd ei galon e, felly pan ddaeth e’n Ysgrifennydd Gwladol roedd ganddo’r cyfle i osod i fewn ryw fath o ddeddfwriaeth, ac fe basiwyd deddf yn 1978 i gael refferendwm.

“Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod ei bod hi’n refferendwm siomedig dros ben.

“Ond y pwynt ydy hyn – beth oedd yn neddf 1978 oedd bron yn union beth osodwyd yn neddf 1997. Roedd y gwaith caib a rhaw wedi cael ei wneud gan John Morris pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol.

“Mae rhai pobol yn ei alw fe fel ‘tad datganoli’, yn sicr mae e’n go agos i fod yn hynny, oherwydd ei fod wedi gosod y seiliau, fel gosodwyd y seiliau cyn hynny gyda Jim Griffiths.

“Dyna’r ddau brif berson, yn fy nhyb i, sydd â’r dylanwad mwyaf i sicrhau y buodd yna Gynulliad, ac yna Senedd. Does dim dadl ambyti hynny.”

‘Dyn tawel’

Roedd John Morris yn dwrnai hefyd, ac yn “ddyn o allu mawr” mewn sawl maes tu hwnt i wleidyddiaeth, meddai Gwynoro Jones.

“Fe gwrddes i ag e ryw flwyddyn yn ôl pan oedd e’n 90 yng Nghaerdydd ar achlysur teyrnged i Jim Griffiths, ond reodd ei feddwl e’n graff. Roedd ei feddwl e’n siarp iawn hyd at y diwedd.

“Dyn ffeind, dyn tawel… gwahanol iawn i nifer ohonom ni! Pan oeddwn i’n meddwl am Elystyn a finnau, Will Edwards, Y Datganolwyr – roedd yna grŵp ohonom ni, 78 ohonom ni, aelodau Llafur o Gymru oedd yn cael ein galw’n ‘Y Datganolwyr’.

“Gorfon ni i ymdopi â nifer o wrthwynebiad yn y dyddiau hynny, a dyna beth mawr eto i ddweud.

“Fel y cafodd Jim Griffiths dipyn o wrthwynebiad yn ei gyfnod o, fe gafodd John hefyd gryn dipyn o wrthwynebiad tu mewn i’r Blaid Lafur Seneddol yng Nghymru ac fe ddaeth e drwy’r holl beth yna.

“Siomedig iawn, er roeddwn i’n deall bod ei hir oes e’n raddol dirwyn i ben.

“Mae ei gyfraniad e i Gymru yn nodedig.”

‘Diolch am dy wasanaeth’

Wrth roi teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog Iechyd Cymru: “Trist iawn clywed bod yr Arglwydd John Morris wedi marw.

“Cynrychiolodd etholaeth Aberafan am 41 o flynyddoedd fel Aelod Seneddol, gan wasanaethu fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Thwrnai Cyffredinol,” meddai.

“Fe oedd yr unig aelod ar ôl o gabinet Harold Wilson.

“Diolch am dy wasanaeth, gorffwys mewn hedd.”