Mae angen llwybr symlach a chyflymach er mwyn gallu cyflwyno mwy o brosiectau ynni morol yng Nghymru, yn ôl un arbenigwr.

Er mwyn i Gymru fod yn arweinydd byd-eang ar ynni morol ac ymateb yn gyflymach i newid hinsawdd, mae angen addasu’r broses drwyddedu ar gyfer prosiectau newydd, medd Jay Sheppard, Rheolwr Prosiect Ynni Morol Cymru.

Mae adolygiad ar y gweill ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru i’r broses drwyddedu morol, ac mae adolygiad diweddar o’r broses yn yr Alban wedi arwain at welliannau yn effeithlonrwydd y broses ac wedi caniatáu i nifer o brosiectau fwrw iddi.

Mae angen i’r un peth ddigwydd yng Nghymru, meddai Jay Sheppard, gan ychwanegu bod y dechnoleg yn barod i’w defnyddio a bod angen ei defnyddio cyn gynted â phosib er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.

“Rydym wedi bod yn eithaf araf yn ymateb i newid hinsawdd a’r hiraf rydym yn cymryd i ymateb, y cyflymaf y mae angen i ni fod,” meddai Jay Sheppard wrth golwg360.

“Nawr yw’r amser, mae gennym ni dechnoleg y gellir ei defnyddio.

“Mae’r cyfan yn ymwneud â chreu llwybr symlach a chyflymach i ganiatáu i’r dechnoleg gael ei defnyddio.”

Arweinydd byd-eang

Mae yna bedwar math o dechnoleg ynni morol – amrediad llanw, llif llanw, tonnau a phrosiectau gwynt arnofiol yn y môr, ac mae yna tua phum gwlad yn cystadlu i fod yn arweinwyr byd-eang ym maes ynni morol.

“O ran yr holl dechnolegau hynny, dim ond ychydig o lefydd yn y byd sy’n arwain – yr Alban, Cymru, Llydaw yn Ffrainc, Canada’r Iwerydd, a Gwlad y Basg, fyswn i’n dweud,” eglura Jay Sheppard.

“Yr hyn sydd ei angen ar ddiwedd y dydd yw cefnogaeth ariannol a chefnogaeth i gael prosiectau yn y dŵr fel y gallwn ni barhau i ddatblygu technoleg, ond mae llawer o’r buddsoddiad hanesyddol ddaeth i Gymru, yn bennaf o gyllid yr Undeb Ewropeaidd, wedi dod i ben ers Brexit, sydd wedi gadael ychydig o fwlch o ran y cyllid sydd ar gael i brosiectau.

“Felly gall prosiectau wneud cais i mewn i CfD, sef y broses dendro gystadleuol sy’n mynd drwy Lywodraeth y Deyrnas Unedig i gael contract i gynhyrchu ynni i’r Grid, ond os ydyn ni’n sôn am dechnoleg arloesol, newydd mae yna fwlch sydd angen ei bontio rhwng yr ymchwilio a’r datblygu cychwynnol a chael y dechnoleg i bwynt lle mae’n barod i wneud cais i’r broses honno.

“Felly mae dal angen meithrin a chefnogi prosiectau i gyrraedd y nod hwnnw.

“Mae caniatâd hefyd yn faes sy’n anodd yng Nghymru. Mae ein proses o benderfynu a yw prosiect yn mynd i’r dŵr ai peidio yn eithaf cyfyngol ac afresymol, ac rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’r awdurdodau trwyddedu i wella’r system honno.”

Ynni gan y tonnau

Mae sawl ffordd o gael ynni gan y môr, ac mae gwahanol dechnolegau yn fwy addas ar gyfer gwahanol ardaloedd arfordirol Cymru.

“Ynni llif llanw, mae yna lawer o botensial i hynny o gwmpas y wlad lle mae gennym benrhynau neu ardaloedd o fôr rhwng ynysoedd a’r tir mawr. Mae yna ambell i hotspot o gwmpas y wlad, mae Ynys Môn yn un ohonyn nhw, Pen Llŷn yn un arall, a Sir Benfro yn un arall,” meddai Jay Sheppard.

Map yn dangos yr ardaloedd lle mae potensial ar gyfer cynhyrchu ynni llif llanw o amgylch Cymru

“Mae yna wahaniaeth rhwng ynni llif llanw ac ynni amrediad llanw, gyda llif llanw gallwch feddwl amdano fel y cerrynt wrth iddo fynd o amgylch pentiroedd, a’r dŵr yn cyflymu wrth i chi gael y cerrynt yma yn symud o amgylch ein harfordir. Mae amrediad y llanw ychydig yn debycach i drydan hydro, rydych chi’n dal y gwahaniaeth rhwng penllanw a llanw isel – fel mewn lagŵn neu forglawdd.

“Mae yna lot o botensial yn Aber Hafren a Bae Lerpwl, mae gan y ddwy ardal amrediad llanw eithaf uchel. Mae gan Aber Hafren yr ail amrediad llanw mwyaf yn y byd, ac mae gan arfordir gogledd Cymru – Bae Colwyn, ac i’r dwyrain – y pumed amrediad llanw mwyaf yn y byd.

“Morlyn Llanw Bae Abertawe oedd yr enghraifft amlycaf, ac mae hynny wedi arafu rywfaint, ond mae cwmni arall wedi cymryd cyfrifoldeb dros y prosiect.”

Consortiwm sy’n cael ei arwain gan gwmni DST Innovations ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n gyfrifol am y cynllun bellach.

“Maen nhw eisiau adeiladu a gwella arno, maen nhw’n ei alw’n Blue Eden. Mae yna lawer o elfennau ychwanegol yn rhan o’u dyluniad nhw.

“Rhan o’r her gyda’r cynllun blaenorol ar gyfer Morlyn Bae Abertawe, yn ogystal â chael caniatâd, oedd problemau’n ymwneud â chytuno ar y gost a’r cytundeb ar gyfer cynhyrchu pŵer i’r Grid.

“Felly mae’r cynllun newydd yma yn bwriadu defnyddio’r holl drydan eu hunain, maen nhw eisiau cael ffatri batris, canolfan ddata, parc gwyddoniaeth, rhywfaint o dai.”

Map yn dangos amrediad y llanw o amgylch y Deyrnas Unedig, gyda’r ardaloedd â’r amrediad uchaf o amgylch Bae Lerpwl ac Aber Hafren

Prosiectau gwynt arnofiol

Mae prosiectau gwynt arnofiol ar y môr yn golygu gosod tyrbinau gwynt ar blatfformau arnofiol, ac mae hynny’n golygu bod ffermydd gwynt yn gallu cael eu hadeiladu mewn ardaloedd o ddŵr dwfn.

“Yn hanesyddol yn y Deyrnas Unedig mae pob un o’r prosiectau gwynt ar y môr wedi digwydd ar arfordir y dwyrain ym Môr y Gogledd oherwydd ei fod yn fôr bas iawn,” meddai Jay Sheppard.

“Ond mae yna lot o lefydd lle ti jyst methu ei roi o achos mae’r dŵr yn rhy ddwfn felly mae’r dechnoleg newydd yma yn agor y drws i ardaloedd newydd.

“Y Môr Celtaidd, yr ardal yn ne a gorllewin Cymru sydd ar y ffin rhwng Iwerddon, Cymru, Cernyw a de-orllewin Lloegr, mae hon yn ardal o bwys ar gyfer y datblygiadau.”

Byddai’r tyrbinau gwynt agosaf yn cael eu gosod tua 45 cilomedr oddi wrth yr arfordir.

“Pe baech chi’n sefyll ar glogwyn yn edrych allan i’r môr, fe fyddech chi’n gallu o’r braidd yn gallu eu gwled nhw.

“Fe fydd yna lawer llai o darfu ar yr olygfa na gyda’r ffermydd gwynt ar arfordir gogledd Cymru, sy’n eithaf amlwg i’w gweld, dyweder.”

O ran ynni tonnau, mae ychydig o ddatblygwyr yng Nghymru ond nid yw’r dechnoleg wedi’i defnyddio ar raddfa eto.