Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal yng Nghymru i ystyried addasrwydd i ymarfer gweithiwr cymdeithasol sydd eisoes wedi’i dynnu oddi ar y gofrestr yn Lloegr.

Yr wythnos nesaf, bydd gwrandawiad addasrwydd i ymarfer Gofal Cymdeithasol Cymru yn ystyried achos Karl Blackwell, gweithiwr cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru.

Rhwng Chwefror 21 a 25 eleni, fe wnaeth Social Work England ganfod fod ei addasrwydd i ymarfer wedi’i amharu, ac fe gafodd ei dynnu oddi ar y gofrestr.

Bydd y gwrandawiad dros Zoom ar Awst 23 yn ystyried a yw addasrwydd Mr Blackwell i ymarfer hefyd wedi’i amharu yng Nghymru ar hyn o bryd.