“Nid dyma ddiwedd y daith” yn y frwydr i atal Bil y Farchnad Fewnol, yn ôl Mick Antoniw, Cwnsler Cyffredinol Cymru a Gweinidog y Cyfansoddiad yn Llywodraeth Cymru.
Daw hyn ar ôl i’r Goruchaf Lys wrthod cais cyfreithiol gan Lywodraeth Cymru yn erbyn y Bil.
Fodd bynnag, mae gan Lywodraeth Cymru yr hawl i “gyflwyno darn o ddeddfwriaeth y gallwn ni ei osod yn erbyn Bil y Farchnad Fewnol” er mwyn ceisio ei atal, meddai.
Nod honedig Bil y Farchnad Fewnol, yn ôl Llywodraeth San Steffan, yw sicrhau na fydd ffiniau mewnol – rhwng Cymru a Lloegr, er enghraifft – yn rhwystro masnach oddi fewn i’r Deyrnas Unedig yn dilyn Brexit.
Byddai’n gorfodi Cymru a’r Alban i dderbyn pa bynnag safonau newydd ynghylch bwyd, yr amgylchedd a lles anifeiliaid sy’n cael eu cytuno mewn cytundebau masnach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhybuddio ei fod yn “ymosodiad ar ddemocratiaeth” sy’n “aberthu dyfodol yr Undeb drwy ddwyn pwerau oddi wrth weinyddiaethau datganoledig”.
Nod Llywodraeth Cymru, yn ôl Mick Antoniw, yw “sicrhau nad yw Bil y Farchnad Fewnol yn newid y gyfraith” a “ddim yn cipio ein hawliau cyfansoddiadol”.
‘Nid dyma ddiwedd y ffordd’
“Doedd hyn ddim yn gwbl annisgwyl, ac nid dyma ddiwedd y daith oherwydd roedd y dyfarniad yn ymwneud â’r broses,” meddai Mick Antoniw wrth golwg360.
“Yr hyn ddywedodd y llys oedd ‘Edrychwch, tan bod gennym ni ddarn penodol o ddeddfwriaeth y gallwn ni ei gosod yn erbyn Bil y Farchnad Fewnol, allwn ni ddim dod i benderfyniad’.
“Dyna ddywedodd y Llys Apêl ac mae’r Goruchaf Lys wedi cytuno.
“Felly yr hyn rydyn ni’n ceisio ei sicrhau yw nad yw Bil y Farchnad Fewnol yn newid y gyfraith, ddim yn cipio ein hawliau cyfansoddiadol.
“Dyna roedden ni eisiau i’r Goruchaf Lys ei egluro, ond bydd yn rhaid iddo gael ei brofi mewn ffordd arall.
“Mae’n debyg y bydd yn rhaid i ni weithio ar ddarn penodol o ddeddfwriaeth a phrofi hwnnw yn y Goruchaf Lys.
“Felly dyw’r ddadl gyfansoddiadol rydyn ni wedi’i chodi am egwyddor gyfreithiol ynglŷn â statws y statud datganoli heb gael ei benderfynu y naill ffordd neu’r llall gan y llys.
“Yr oll gafodd ei drafod yw sut y byddai’r llys yn profi hynny, a’r hyn mae’r llys wedi’i ddweud yw mai’r ffordd o’i brofi yw cyflwyno darn o ddeddfwriaeth y gallwn ni ei gosod yn erbyn Bil y Farchnad Fewnol.
“Yr hyn fyddwn ni nawr yn ei ystyried yw sut y gallwn ni gymryd y cam nesaf hwn.”
‘Llawer iawn mwy cymhleth na hynny’
Wrth ymateb, dywedodd Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, fod y cais cyfreithiol “wedi methu” a’i bod yn “bryd i Lafur dderbyn Brexit a bwrw ymlaen gyda’u gwaith”.
Fodd bynnag, dywed Mick Antoniw fod y sefyllfa’n “llawer iawn mwy cymhleth na hynny”.
“Dyw’r sylwadau yna ddim yn awgrymu fod ganddo ddealltwriaeth o’r pwynt cyfansoddiadol sydd wedi cael ei godi ac sydd angen cael ei ddatrys,” meddai.
“Dw i wedi gwneud datganiad rhagarweiniol a bydda’ i’n gwneud datganiadau pellach i’r Senedd yn y man er mwyn ystyried pa gamau y byddwn yn eu cymryd nesaf.
“Ond dyw’r mater hwn ddim yn mynd i gael ei adael lle mae e, mae e dal angen cael ei ddatrys ac mae angen i ni ystyried yn ofalus sut mae gwneud hynny.”