Mae Pere Aragonès, arlywydd Catalwnia, yn dweud na fydd yn rhoi’r gorau i’w ddymuniad i drafod annibyniaeth, hyd yn oed pe bai llywodraeth newydd yn dod i rym yn Sbaen, yn ôl Catalan News.

Wrth siarad ag asiantaeth newyddion yng Nghatalwnia, cadarnhaodd fod trafodaethau’n digwydd rhwng gweinyddiaethau, nid unigolion, ac felly bod rhaid i’r trafodaethau hynny barhau “am fod y gwrthdaro’n parhau”.

Bydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal yn Sbaen y flwyddyn nesaf, ac fe allai hynny olygu llywodraeth newydd ond mae Pere Aragonès yn dweud y bydd y trafodaethau’n parhau, hyd yn oed pe bai llywodraeth asgell dde mewn grym, er bod yr asgell dde ar y cyfan yn llai agored i drafod annibyniaeth yn y gorffennol.

“Fydd Catalwnia ddim yn gadael y bwrdd negodi,” meddai.

“A phe bai Sbaen yn gwneud, bydd yn rhaid iddi fod yn atebol am y rheswm pam y bydd yn gwneud hynny.

“Dydyn ni ddim yn rhoi’r gorau i broses i barhau i fynnu refferendwm ac amnest.”

Mae e hefyd yn gofyn am ragor o amser i drwsio’r berthynas rhwng y pleidiau, gan fod “peth” cytundeb rhyngddyn nhw erbyn hyn ond mae gwaith eto i’w wneud er mwyn “dod i gytundeb terfynol”.

Mae Aragonès yn awyddus i weld cyfraith amnest yn dod i rym ar yr unigolion hynny a gafodd eu herlyn am eu rhan yn ymgyrch annibyniaeth Catalwnia, yn ogystal â chaniatâd i gynnal refferendwm cyfreithlon, cyfansoddiadol.

Roedd peth cynnydd yn y cyfarfod diwethaf rhwng Sbaen a Chatalwnia ar Orffennaf 26 ym Madrid, lle cytunon nhw i gymryd camau ym maes y farnwriaeth a’r iaith Gatalaneg yn yr ysgol, yn y Senedd ac yn Senedd Ewrop.

Junts per Catalunya

Yn ôl Pere Aragonès, mae trafodaethau cyson rhyngddo fe a Junts per Catalunya, y partner iau yn y llywodraeth glymblaid yng Nghatalwnia, ynghylch mater annibyniaeth a thrafodaethau gyda Sbaen.

Ond doedd Junts per Catalunya ddim yn rhan o’r trafodaethau diweddaraf yn sgil anghytundeb ynghylch rôl y rhai oedd yn cymryd rhan yn y trafodaethau. Mae Junts eisiau anfon aelodau blaenllaw o’r tu allan i’r llywodraeth, tra bod Sbaen eisiau trafod gyda gweinidogion.

Gorau po fwyaf o bleidiau sy’n cymryd rhan yn y trafodaethau, yn ôl Pere Aragonès, sy’n dweud ei fod e’n barod i ystyried dulliau amgen pe na bai’r trafodaethau’n llwyddo.