Mae buddsoddiadau mewn prifysgolion a deallusrwydd artiffisial yn helpu Cymru i ddod yn arweinydd rhyngwladol yn y maes, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu £500,000 o gyllid rhwng 22 o brosiectau.

Mae Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yn fenter ar y cyd rhwng prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor, sy’n helpu i sicrhau llwyddiant hirdymor y maes deallusrwydd artiffisial a gwyddor data.

Wrth i ddeallusrwydd artiffisial ddod yn fwy cyffredin, mae timau ymchwil y prifysgolion yn helpu pobol ledled Cymru drwy sicrhau bod prosiectau’n symud yn eu blaenau gyda chymorth diwydiant fel bod modd mabwysiadu’r canlyniadau i wella cynaliadwyedd, ansawdd bywyd a chanlyniadau economaidd.

Ar yr un pryd, y gobaith yw y bydd hyn yn helpu i greu gweithlu sydd â chymhwysedd digidol.

Yn Ysgol Feddygaeth Caerdydd, bydd yr Athro Mattias Eberl a’i dîm yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i achub bywydau drwy atal sepsis mewn cleifion sy’n cael llawdriniaeth ar yr abdomen.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cefnogi’r sector amaethyddol drwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial i nodi parasitiaid sy’n gyffredin mewn da byw sy’n pori yng Nghymru oherwydd hinsawdd y wlad.

Mae Prifysgol Bangor wrthi’n cefnogi’r amgylchedd drwy ddatblygu offer meddalwedd i ddefnyddio technoleg radar ar hyd arfordir Cymru.

Bydd hyn yn rhoi gwybodaeth amser real i ddatblygwyr ynni adnewyddadwy morol, porthladdoedd, ac awdurdodau lleol am y tonnau a’r cerrynt, gan helpu i ddod o hyd i safleoedd gwell ar gyfer ynni adnewyddadwy a gwella diogelwch.

‘Ar flaen y gad’

Dywed Jeremy Miles, Ysgrifennydd Addysg a’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru, fod Cymru’n gartref i ymchwil addysg uwch “wych”.

“Mae’n dda gweld ein prifysgolion yn cydweithio i sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran datblygiadau mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial,” meddai.

“Rwy’n falch bod y cyllid hwn wedi helpu i gefnogi prosiectau sydd â’r pŵer i wella bywydau pobol yma yng Nghymru a thu hwnt.

“Mae Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yn enghraifft o sut y gall sector addysg uwch cryf gefnogi pob agwedd ar ein bywydau a sicrhau ein bod yn barod ar gyfer y dyfodol.”

‘Hwb i’r economi’

Dydy ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg erioed wedi bod yn bwysicach o ran cefnogi prosiectau a chanlyniadau sy’n canolbwyntio ar atebion i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang, yn ôl Vaughan Gething, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Rwy’n hyderus y bydd y cyllid newydd hwn yn cefnogi ein prifysgolion i  weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i ddefnyddio’r arloesedd technolegol diweddaraf mewn gwyddor data a deallusrwydd artiffisial i gyflawni hynny,” meddai.

“Wrth wneud hynny, byddant yn helpu i roi hwb i economi Cymru drwy helpu i greu diwydiannau’r dyfodol, a fydd yn creu’r swyddi newydd o ansawdd uchel yr ydym am eu gweld ledled Cymru.”

‘Uchelgeisiol ac arloesol’

Dywed yr Athro Roger Whitaker, Dirprwy Is-ganghellor Etholedig ar gyfer Ymchwil, Arloesi a Menter ym Mhrifysgol Caerdydd, fod y byd yn newid ar gyflymder digynsail oherwydd gwyddor data a deallusrwydd artiffisial.

“Mae hyn yn effeithio ar bron bob sector yng Nghymru,” meddai.

“Mae Prifysgolion Caerdydd, Abertawe, Bangor ac Aberystwyth wedi ffurfio partneriaeth i gychwyn prosiect Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru, rhaglen uchelgeisiol o ymchwil, arloesi a hyfforddiant i gefnogi trawsnewid digidol.

“Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau ‘sbrint’ tymor byr wedi galluogi partneriaethau â sefydliadau a chwmnïau i ddangos yn gyflym pŵer a photensial data a thechnolegau a yrrir gan ddeallusrwydd artiffisial.

“Mae hyn yn cefnogi gwell iechyd a lles, gwell gwasanaethau cyhoeddus, economi gystadleuol a phlaned wyrddach.”