Mae Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn cynnig gwersi sgiliau achub bywyd mewn pwll hydrotherapi, yn y gobaith o atal plant a babanod rhag boddi.

Mae newid y ffordd y caiff pyllau hydrotherapi Bwrdd Iechyd Bae Abertawe’n cael eu rhedeg yn golygu eu bod nhw ar gael at ddefnydd y gymuned pan na fydd gan gleifion apwyntiadau.

Mae Water Babies, sy’n rhoi gwersi nofio i blant oedran cyn ysgol, yn defnyddio’r pwll at ddibenion hwyl ond gan ddysgu sgiliau pwysig ar yr un pryd.

Yn y Deyrnas Unedig, mae boddi’n cyfrannu at draean o farwolaethau ymhlith plant a babanod.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’r sioc o fynd o dan y dŵr yn achosi panig, ond gall ymgyfarwyddo â’r dŵr yn ifanc iawn helpu plant i fagu hyder.

Erbyn iddyn nhw gyrraedd dwy oed, mae modd dysgu plant i gwympo i mewn i’r dŵr, dod i’r wyneb, nofio i ochr y pwll a dal gafael.

Diolch i ffioedd rhesymol y bwrdd iechyd a grant gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, mae’r grŵp eisoes wedi dysgu sgiliau achub bywyd i fwy na chant o fabanod a rhieni, ac maen nhw’n gobeithio dyblu’r ffigwr erbyn diwedd y mis.

‘Cyfleuster gwych’

“Rydym wrth ein boddau o allu cynnal ein dosbarthiadau ym mhwll hydrotherapi Ysbyty Castell-nedd Port Talbot – mae’n gyfleuster gwych,” meddai Aletia Griffiths, cyfarwyddwr Water Babies, sydd hefyd yn cynnal gwersi yn Ysbyty Singleton yn Abertawe.

“Dros y blynyddoedd diwethaf, mae o leiaf deg o ddisgyblion Water Babies yn y Deyrnas Unedig wedi achub eu bywydau eu hunain, a phump ohonyn nhw ond yn ddwy oed ar y pryd.

“Mae’r sgiliau hanfodol y gall plant eu dysgu’n wych, ac mae hi mor bwysig eu bod nhw’n gwneud hynny cyn gynted â phosib.

“Yn ogystal â sgiliau diogelwch dŵr a mwynhau’r dŵr, ffocws allweddol arall yw helpu i gryfhau’r cwlwm rhwng y gofalwr a’r plentyn.”

Newid ar gyfer y dyfodol

Mae Water Babies ymhlith y grwpiau sydd wedi llogi’r cyfleuster yn dilyn newidiadau i’r ffordd y caiff pyllau hydrotherapi eu rhedeg gan y bwrdd iechyd.

Roedd y rhaglen ymgysylltu Newid ar gyfer y Dyfodol wedi awgrymu nifer o newidiadau posib i’r ffordd y caiff gwasanaethau gofal wedi’u cynllunio yn cael eu cyflwyno yn dilyn Covid.

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bydd Ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn dod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer adferiad.

Er bod pyllau hydrotherapi Ysbyty Castell-nedd Port Talbot ac Ysbyty Singleton yn ffynnu, mae’r pwll yn Ysbyty Treforys wedi cau ers tro, ond mae’r ddau bwll sydd ar agor wedi gweld cynnydd yn nifer y bobol sy’n elwa arnyn nhw, gydag amrywiaeth eang o bobol yn manteisio ar y cyfleusterau i geisio gwella cyflyrau tymor byr a thymor hir.

“Mae yna elfen gymdeithasol sydd wedi bod ar goll i nifer yn ystod Covid, felly mae’r gwersi’n gyfle i famau rwydweithio ac i adeiladu perthnasau rhianta cefnogol,” meddai Jordanna Roberts, arweinydd clinigol ffisiotherapi ysbytai Castell-nedd Port Talbot a Singleton.

“Yn gorfforol, mae llu o fanteision i unrhyw ymarfer corff a symud, gan gynnwys gwella hwyliau, cwsg, cryfder corfforol a symudedd, ochr yn ochr ag atal cyflyrau iechyd cronig.

“Mae’r dŵr twym a nofiadwy o fewn y pwll yn lleihau pwysau ar y cymalau ac fe all gwneud ystwytho a symud yn fwy effeithiol a chyfforddus.

“Yn dilyn llwyddiant y dosbarth Water Babies, rydym yn awyddus i gydweithio â phartneriaid eraill i gynyddu’r llwyddiant ar draws y boblogaeth.

“Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw grwpiau sydd â diddordeb mewn llogi’r pwll yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn Singleton.”