Roedd miloedd o bobol wedi’u gwisgo’n goch ar strydoedd Bheul Feirste (Belfast) ddoe (dydd Sadwrn, Mai 21) i fynnu Deddf Iaith Wyddeleg.

Yn ôl rhai amcangyfrifon, roedd hyd at 18,000 wedi ymgynnull ar gyfer y digwyddiad, gyda gorymdaith yn mynd am Neuadd y Ddinas cyn rali fawr.

Ymhlith y siaradwyr roedd Dáithí Mac Gabhann, merch bump oed, y gweithiwr ieuenctid Katie Irvine, a Dónal Ó Cnaimhsí  o’r Gaeltacht, ardal iaith Wyddeleg, yn Dhún na nGall (Donegal).

Mae ymgyrchwyr yn ceisio “cydnabyddiaeth i’r iaith, parch a hawliau”, yn ôl y Belfast Telegraph, sy’n adrodd bod y strydoedd yn frith o deuluoedd sy’n medru’r iaith, grwpiau cymunedol a chlybiau chwaraeon.

Maen nhw hefyd am weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwireddu eu haddewid i gyflwyno’r Ddeddf Iaith, gan floeddio yn ystod y rali, “tír gan teanga, tír gan anam” (Cenedl heb iaith, cenedl heb galon).

Cyn y digwyddiad, roedd y llefarydd Conchur O Muadaigh yn dweud iddyn nhw gael eu “syfrdanu” gan y gefnogaeth i’r “rali iaith Wyddeleg fwyaf ers cenhedlaeth”.

Degawd Newydd, Dull Newydd

Roedd gwarchod yr iaith Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon yn rhan allweddol o’r cytundeb Degawd Newydd, Dull Newydd – cytundeb arweiniodd at rannu grym unwaith eto fis Ionawr 2020 ar ôl tair blynedd o anghytuno.

Roedd y warchodaeth yn rhan o becyn ehangach o ddeddfau oedd yn cynnwys sefydlu Swyddfa Hunaniaeth a Mynegiant Diwylliannol i hybu parch at amrywiaeth ac i sefydlu Comisiynydd Iaith a chomisiynydd i ddatblygu’r iaith, y celfyddydau a llenyddiaeth Sgots Ulster ac Ulster Brydeinig.

Ond mae’r pecyn hwn wedi bod yn destun ffrae fawr ymhlith gwleidyddion a phleidiau.

Fis Mehefin y llynedd, addawodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydden nhw’n cyflwyno deddfwriaeth yn San Steffan yn sgil diffyg cytundeb rhwng Sinn Féin a’r DUP tros Gynulliad Stormont.

Ond doedd dim deddfwriaeth arfaethedig cyn y terfyn amser fis Hydref y llynedd, ac mae Boris Johnson, prif weinidog y Deyrnas Unedig, bellach yn addo cyflwyno’r ddeddfwriaeth yn yr wythnosau sydd i ddod.