Bydd Ysgol Gymraeg Pen-y-Groes yng Nghaerdydd yn cynnal Wythnos Grefyddau yr wythnos hon, gyda’r nod o ddangos mai “pobol ydyn ni i gyd”, yn ôl Mr Ryan Chappell, Dirprwy Bennaeth yr ysgol.
Mae gweithgareddau wedi’u trefnu bob dydd yr wythnos hon, wrth i’r disgyblion gael y cyfle i ddysgu mwy am Gristnogaeth, Islam, Iddewiaeth a Sikhiaeth – ddwy flynedd ar ôl i’r ysgol gynnal wythnos i godi ymwybyddiaeth o Hindwiaeth cyn i’r pandemig Covid-19 daro.
Y bwriad bryd hynny oedd cynnal wythnos ar gyfer pob crefydd, ond fe fydd yr wythnos hon, ar ei newydd wedd, yn cynnig blas o wahanol grefyddau yn ystod yr un wythnos, gyda phobol o’r cymunedau amrywiol yng Nghaerdydd yn dod i rannu eu profiadau gyda’r plant.
“Roedden ni wedi trio’i wneud e, ac ar fin ei wneud e yr wythnos cyn Covid a’r cyfnod clo,” meddai Ryan Chappell wrth golwg360.
“Bryd hynny, beth gaethon ni ychydig cyn hynny oedd Wythnos Dathlu Hindwiaid fel rhan o weledigaeth yr ysgol ein bod ni’n hyrwyddo ac yn codi ymwybyddiaeth plant o’r gwahanol gymunedau, crefyddau, hil, rhywioldeb ac yn y blaen.
“Felly rydyn ni wastad yn awyddus i drio codi ymwybyddiaeth a chynnig profiadau i’r plant, yn hytrach na bo ni jyst yn darllen mewn llyfr ac yn edrych ar luniau.
“Mae’n well gen i bod gyda ni bobol â phrofiad yn dod mewn i siarad a chodi ymwybyddiaeth y plant.”
‘Wythnos tamaid bach yn fwy llawn’
Yn hytrach na theimlo bod cyfle wedi’i golli oherwydd Covid-19, mae’r ysgol wedi cael cyfle i gynnal wythnos fydd yn rhoi profiadau i’r plant o bedwar crefydd gwahanol drwy gydol yr wythnos.
“Beth mae Covid wedi cynnig i ni nawr yw fod yr wythnos wedi mynd tamaid bach yn fwy llawn,” meddai Ryan Chappell.
“Rydyn ni wedi llwyddo mewn wythnos i gael profiadau o bedwar crefydd gwahanol achos, fel ysgol, rydyn ni’n ysgol gyda chanran fach iawn o blant o grefyddau gwahanol, gan gynnwys Cristnogaeth, ond hefyd dydyn ni ddim yn ysgol sydd â chanran fawr, fel lot o ysgolion Cymraeg, o blant o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
“Felly beth rydyn ni’n teimlo wedyn ydy fod rhaid i ni roi’r profiadau yna oherwydd dydy’r plant ddim yn cael profiadau naturiol fel byddai plant mewn ysgolion Saesneg sydd â chanran uwch o bobol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.”
Ydy’r plant, felly, yn rhannu profiadau ymysg ei gilydd fel arfer?
“Rydyn ni’n gwahodd nhw, ond dyn ni byth eisiau gwneud iddyn nhw deimlo’n wahanol a bo nhw’n gorfod trafod,” meddai wedyn.
“Rydyn ni wastad yn cynnig i rieni, ac mae rhieni wedi cael cynnig os ydyn nhw eisiau cyfrannu at yr Wythnos.
“Mae gyda ni un ferch sydd yn Hindw, so wnaeth hi rannu tipyn bach o’i phrofiadau hi o Diwali, ond fel ysgol, does gennym ni ddim lot o blant neu deuluoedd sy’n gallu cynnig pethau ar wahân i ychydig o deuluoedd Cristnogol.
“Rydyn ni wedi arbrofi yn y gorffennol efo Wythnos Mae Bywydau Du o Bwys drwy gael pobol fel Mali Rees, yr actores, i mewn yn siarad gyda ni, daeth Colin Charvis i wneud sgwrs gyda ni, ac rydyn ni jyst yn teimlo’i fod e’n fwy effeithiol o lawer pan ydyn ni’n gweithredu yn y ffordd yma fel bod y plant yn clywed profiadau o’r person, profiadau positif, profiadau llai positif hefyd.”
Wythnos Grefyddau – ond nid crefydd yw popeth
Er bod yr wythnos yn ddathliad o grefyddau gwahanol, roedd yr ysgol yn awyddus i sicrhau eu bod nhw’n cynnig rhywbeth mwy na dim ond crefydd, gan ddysgu’r plant am wisgoedd, arferion a thraddodiadau, bwyd a nifer o agweddau eraill ar fywyd.
“Rydyn ni’n trio jyst dangos i’n plant ni, er enghraifft ar ddydd Mawrth, mae mudiad o’r enw Unveiling Islam yn dod i weithio gyda ni am y diwrnod,” meddai Ryan Chappell.
“Mae un o’r gweithgareddau yn weithgaredd bêl-droed a digwydd bod, mae’r hyfforddwr sy’n dod mewn yn rhan o’r gymuned Islam, so rydyn ni eisiau bod ein plant ni yn cael gwared ar yr ystrydebau bod pobol grefyddol ddim ond yn byw crefydd.
“Rydyn ni angen gweld pobol o gig a gwaed sydd yn cael union yr un profiadau â phobol wyn, i drio newid y meddylfryd sydd bach yn styc weithiau.
“Crefydd sydd yn arwain popeth, so maen nhw yn mynd i ddeall mwy am y crefyddau yn bendant. Maen nhw’n sôn am ddillad, am Ramadan… a dydd Gwener pan fyddwn ni’n edrych ar Sikhiaeth, byddwn ni’n sôn am ddillad a’r gwyliau pwysig iddyn nhw.
“Ond eto mae yna ddau weithdy chwaraeon, lle mae un o aelodau’r gymuned Sikh yn mynd i drafod eu profiadau nhw yn cynrychioli Cymru mewn hoci a tenis bwrdd, fel bod y plant yn deall mai pobol ydyn ni i gyd, a dyna yw asgwrn cefn yr wythnos – bo ni’n cyfathrebu, yn gofyn cwestiynau, yn gwneud i’r plant deimlo’n hyderus a bod e’n OK i ofyn cwestiynau mewn ffordd barchus a bo ni’n deall pawb o fewn Caerdydd yn well a bo ni’n gallu cyd-fyw a dysgu o’n gilydd a dathlu profiadau amrywiol pawb wedyn.”
Digwyddiad blynyddol?
A oes gan yr ysgol fwriad, felly, i gynnal Wythnos Grefyddau’n flynyddol o hyn ymlaen?
“Yn y lle cyntaf, mae’n rhaid i ni ei wneud e’n flynyddol a trio hyrwyddo fe, ond wrth i ni symud ymlaen wedyn, rydyn ni eisiau bod e’n rywbeth organig, bo ni ddim yn gorfod hyrwyddo a jyst rhoi wythnos o ffocws,” meddai Ryan Chappell.
“Rydyn ni’n dathlu crefyddau trwy gydol y flwyddyn, ond rydyn ni jyst eisiau dangos i staff a rhieni bwysigrwydd profiadau a gwrando ar bobol wahanol.
“Ond mae e wedi tyfu o fod jyst yn wythnos lle roedd yr adran iau yn canolbwyntio ar Hindwiaid, ac mae’n wythnos rydyn ni rili yn edrych ymlaen ati.
“Mae lot o drefnu wedi mynd mewn iddo fe, a lot o bobol ffantastig o gymunedau Caerdydd yn gwirfoddoli eu hamser er mwyn helpu ni i wireddu’r weledigaeth sydd yn rhan o weledigaeth ysgol ni ym Mhen-y-Groes.”