Mel Williams
Enillydd y Fedal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod 2015 ydy Mel Williams o Lanuwchllyn.
Cyflwynir y Fedal iddo heddiw ar faes yr Eisteddfod am ei gyfraniad hyd-oes i wyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.
Bellach yn ei ymddeoliad, athro oedd galwedigaeth Mel Williams ac mae hefyd yn awdur toreithiog. Bu’n rhan bwysig o’r gwaith o sicrhau llwyfan canolog i wyddoniaeth a thechnoleg ar Faes yr Eisteddfod.
Gweithredodd fel Cadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Brifwyl yn ystod Eisteddfod Maldwyn 1981.
Golygydd cylchgrawn ‘Y Casglwr’
Bywydeg yw maes Mel Williams ac mae wedi cyfrannu yn helaeth i’r pwnc drwy gyfrwng y Gymraeg. Bu hefyd yn aelod o Banel Termau Gwyddonol CBAC ac yn Gadeirydd Pwyllgor Gwyddoniaeth y Cydbwyllgor ar ddechrau’r 90au.
Nid gwyddoniaeth yn unig yw diddordeb Mel Williams, mae’n adnabyddus i Gymru fel golygydd cylchgrawn ‘Y Casglwr’ o 1988-2012. Er mai cylchgrawn sy’n ymwneud â llenyddiaeth a deunydd diwylliannol Cymraeg a Chymreig yn bennaf yw ‘Y Casglwr’ roedd Mel Williams yn gyfrifol am sicrhau bod lle teilwng i erthyglau am wyddoniaeth ynddi.