Gari Bevan, Dysgwr y Flwyddyn, a'i wraig Sian
Gobaith Dysgwr y Flwyddyn yw argyhoeddi pobol eraill yn y Cymoedd i ddilyn ei esiampl a throi iaith ei deulu o Saesneg i Gymraeg.
Newid iaith teuluoedd yw’r allwedd i sicrhau bod disgyblion ysgolion Cymraeg yn cadw at yr iaith ar ôl gadael, meddai Gari Bevan o Ferthyr ar ôl derbyn tlws Dysgwr y Flwyddyn mewn seremoni yng Ngwesty Llyn Efyrnwy, ychydig filltiroedd o faes yr Eisteddfod.
“Gobeithio y bydd pobol eraill yn troi iaith y teulu o Saesneg i Gymraeg,” meddai’r cyn-drydanwr sydd bellach yn gweithio yng nghanolfan Gymraeg Soar ym Merthyr.
“Os ydyn nhw’n gwneud hyn, dw i’n meddwl pan mae pobol ifanc yn gadael yr ysgol Gymraeg bydd yr iaith yn dal gyda nhw.”
‘Mae pawb yn gallu’i wneud e’
Ar fideo yn y seremoni fe ddywedodd sut yr oedd wedi sicrhau bod ei blant yn cael addysg Gymraeg ac wedyn wedi penderfynu dysgu’r iaith ei hun wrth sylweddoli eu bod nhw’n troi at y Saesneg i’w gynnwys ef.
Bellach, meddai, dyw ei wyth o wyrion ddim yn credu ei fod yn gallu siarad Saesneg ac un o’i blant yw Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
“Wrth gwrs fod pobol yn gallu ei wneud e,” meddai wrth Golwg360. “Dw i’n siarad Cymraeg gyda Sian fy ngwraig nawr a rydyn ni wedi bod gyda’n gilydd ers 40 o flynyddoedd – ac mae e’n hawdd gyda phlant.
“Dw i’n gobeithio dangos i bobol os dw i’n gallu’i wneud e, mae unrhyw un yn gallu’i wneud e.”