Gari Bevan
Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Gari Bevan o Ferthyr Tudful.

Cafodd ei anrhydeddu mewn seremoni arbennig nos Fercher, yn dilyn cystadleuaeth o “safon arbennig o uchel.”

Roedd pump wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni am y tro cyntaf erioed am fod y safon mor uchel, yn ôl y beirniaid, Heini Gruffydd, Alison Layland a Siân Lloyd.

Bu teulu Gari Bevan yn rhan allweddol o’i benderfyniad i fynd ati i ddysgu Cymraeg, gan iddo ef a’i wraig, Siân, ddewis anfon eu plant i ysgol Gymraeg.  Erbyn hyn, mae Siân a dau o feibion Gari’n defnyddio’r Gymraeg yn rhinwedd eu swyddi ac mae’i wyrion yn mynychu ysgolion Cymraeg.

Ers dechrau dysgu Cymraeg mae Gari Bevan, sydd yn gweithio yng Nghanolfan Soar, Merthyr Tudful, yn rhan allweddol o’r criw sy’n trefnu gweithgareddau Cymraeg yn ei gymuned, ac mae hefyd yn mwynhau defnyddio’r iaith yn ei waith yn ddyddiol.

Brwdfrydedd

Mae’i frwdfrydedd a’i ymroddiad i ddysgu Cymraeg wedi ysbrydoli amryw o’i gwmpas a oedd heb ddefnyddio’r iaith ers dyddiau ysgol ac mae hefyd yn barod i helpu dysgwyr eraill, gan gynnig cefnogaeth a chymorth, meddai’r beirniaid.

Derbyniodd Gari Bevans Dlws Dysgwr y Flwyddyn (Canolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru) a £300.

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Deiniol Carter, Caerdydd, Debora Morgante, Rhufain, Diane Norrell, Sir Amwythig a Patrick Young, Llan Ffestiniog.

Derbyniodd y pedwar dlysau gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Canolbarth Cymru ynghyd â £100 yr un, er cof gan deulu’r diweddar Sioned Penllyn a’r Parch W E Jones (ap Gerallt).