Naoto Kan, cyn-Brif Weinidog Japan
Mae rhai o gynghorwyr Ynys Môn wedi awgrymu nad ydyn nhw’n disgwyl y bydd ymweliad cyn-Brif Weinidog Japan â’r ynys yr wythnos diwethaf yn cael effaith ar ddatblygiad Wylfa B.

Bu Naoto Kan yn ymweld â Chymru i geisio darbwyllo pobl yn erbyn cefnogi ynni niwclear, gan sôn am drychineb Fukushima pan fu’n rhaid i gannoedd o filoedd o bobl ffoi o’u cartrefi.

Yn dilyn yr ymweliad fe ddywedodd arweinydd Cyngor Môn Ieuan Williams nad fyddai safbwynt y cyngor ar ynni niwclear a Wylfa Newydd yn newid, rhywbeth mae rhai o gynghorwyr eraill yr ynys bellach wedi ategu.

Ond fe ddywedodd y cynghorydd Ann Griffith ei bod hi’n gobeithio y bydd ymweliad Naoto Kan yn gosod cynsail ar gyfer “deialog agored ar bolisi ynni yng Nghymru”.

Gwrandawiad teg

Cafodd cynghorwyr Ynys Môn gyfle i gyfarfod Naoto Kan a’i ddirprwyaeth yn ystod eu hymweliad, gan wrando ar gyflwyniadau gan y cyn-brif weinidog yn ogystal â dyn oedd yn arfer gweithio yn y diwydiant niwclear, a dynes oedd wedi gorfod ffoi o Fukushima.

Ond er i’r ymwelwyr gael gwrandawiad teg mae’n annhebygol bod llawer o’r cynghorwyr am newid eu meddyliau, yn ôl Hywel Eifion Jones sydd yn gynghorydd Annibynnol dros Bro Rhosyr ac o blaid Wylfa B.

“Fyswn i ddim yn dweud mod i wedi dysgu llawer o ddim byd newydd, heblaw am beth oedd gan y ddynes i’w ddweud am ei phrofiad ofnadwy efo’i theulu yn Fukushima, roedd hwnnw’n brofiad erchyll,” meddai Hywel Eifion Jones.

“O’r cynghorwyr nes i siarad efo ar ôl y cyfarfod, dw i ddim yn credu eu bod nhw wedi newid eu safbwynt.

“Mi roedd ‘na rai cynghorwyr oedd yn anghyfforddus ei fod o’n dod i’n gweld ni, ond yn bersonol roeddwn i’n ddigon bodlon i roi gwrandawiad teg i unrhyw farn.”

Barn debyg oedd gan John Griffith, cynghorydd Plaid Cymru dros Talybolion sydd hefyd yn gefnogol i’r atomfa niwclear.

“Mae’n braf cael clywed yr ochr arall gan rywun oedd yna, ond dw i ddim yn meddwl fod beth oedd o’n ei ddweud a beth sydd wedi digwydd yn Japan yn debygol o ddigwydd yn fan hyn,” meddai John Griffith.

“I’r rheiny oedd yn gwrthwynebu mae’n siŵr ei fod o wedi cadarnhau beth oedden nhw’n ei feddwl, ond i’r rheiny sydd yn cefnogi Wylfa dw i ddim yn meddwl y bydd o’n newid eu meddyliau.”

Deialog agored

Fodd bynnag fe awgrymodd Ann Griffith, cynghorydd Plaid Cymru dros Bro Aberffraw, fod yr ymweliad wedi codi cwestiynau pwysig ynglŷn â diogelwch ac ynni niwclear.

“Dydw i ddim yn gwybod os wnaeth unrhyw gynghorwyr Ynys Môn newid eu meddwl yn dilyn yr ymweliad,” meddai Ann Griffith, sydd wedi datgan yn y gorffennol ei bod hi yn erbyn ynni niwclear.

“Ond roedd pawb yn gwrando’n astud ar beth gafodd ei ddweud ac mae’n rhaid bod hynny’n beth da.

“Dw i’n meddwl bod pawb yn poeni am ddiogelwch ac fe wnaeth yr ymweliad yma ffocysu’n meddwl ni ar yr ochr yma o ynni niwclear.

“Mi fuodd rhywfaint o drafod ar ôl hynny wrth i gynghorwyr gymryd fewn beth gafodd ei ddweud.”

Ychwanegodd fod y cynghorwyr wedi gwerthfawrogi eu cyfarfod gyda chyn-brif weinidog Japan, gan awgrymu y bydden nhw wedi gwerthfawrogi gallu ei holi yn bellach ynglŷn â materion diogelwch.

“Roedd rhai cynghorwyr yn teimlo y byddai wedi bod yn ddefnyddiol gallu gofyn mwy o gwestiynau i Mr Kan a’i dîm, yn enwedig ynglŷn â diogelwch gwastraff niwclear a gwacâd brys ond yn anffodus doedd dim amser,” ychwanegodd Ann Griffith.

“Gobeithio fod yr ymweliad yma wedi gosod cynsail ar gyfer deialog agored ar bolisi ynni yng Nghymru.”

Gallwch ddarllen mwy am yr ymweliad, gan gynnwys sgwrs gyda Naoto Kan, yn Golwg yr wythnos hon.