Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am help y cyhoedd, wedi i rywun dorri i mewn i gymdeithas adeiladu’r Nationwide yn Llandudno neithiwr.

Fe gafodd swyddogion eu galw gan aelod o’r cyhoedd, toc wedi chwarter i wyth neithiwr. Mae’r gymdeithas adeiladu ar Stryd Mostyn yn y dre’.

Mae’r heddlu’n dweud fod y bwrglerwyr wedi gorfodi eu ffordd i mewn i’r adeilad, ac maen nhw’n awyddus i siarad ag unrhyw un a allai fod wedi sylwi ar rywun yn ymddwyn yn amheus yn yr ardal.