Prifysgol Caerdydd - 128 yn cael mwy na £100,000
Mae bron 200 o staff prifysgolion Cymru yn ennill mwy na £100,000 y flwyddyn.

Mae dau o’r prifathrawon – yr is-ganghelliorion – yn ennill tros chwarter miliwn yr un ond dim ond un sy’n cael mwy na’r cyfartaledd Prydeinig.

Dyna rai o’r ffigurau sydd wedi eu datgelu trwy gwestiynau rhyddid gwybodaeth gan undeb gweithwyr coleg yr UCU.

  • Ym Mhrifysgol Caerdydd y mae’r ffigurau ucha’ – mae’r Is-Ganghellor Colin Riordan yn debryn £271,000 y flwyddyn ac mae 128 o staff y Brifysgol yn derbyn mwy na £100,000.
  • Yr ail gyflog ucha’ yw un Medwin Hughes, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy’n derbyn £250,871 – ond mae hynny £10,000 yn is na’r cyfartaledd trwy brifysgolion gwledydd Prydain.
  • Ffigwr arall y mae’r undeb yn tynnu sylw ato yw’r gwahaniaeth rhwng cyflog yr Is-Ganghellor a chyfartaledd cyflog y staff. Y tro yma, Y Drindod Dewi Sant sydd ucha’ – 7.4 gwaith yn fwy, gydag Aberystwyth yn ail ar 7.1.

Cais am wybodaeth

Roedd y cais am wybodaeth gan fwy na 130 o brifysgolion yn rhan o ymgyrch gan yr undeb i geisio diwygio’r ffordd y mae cyflogau – yn arbennig cyflogau is-gangellorion – yn cael eu penderfynu.

Yn ôl yr undeb, mae’r broses yn rhy gyfrinachol ac ar hap.

Yn wahanol i rai, roedd prifysgolion Cymru wedi ateb y rhan fwya’ o’r cwestiynau er fod Aberystwyth, er enghraifft, wedi gwrthod rhoi manylion am wario’r Is-Ganghellor ar deithio a chostau eraill.

Galw am newidiadau

Maen nhw bellach yn galw am gyfres o newidiadau:

  • Bod cofnodion pwyllgorau cyflog yn cael eu cyhoeddi, gan gynwys rhesymau tros godiadau cyflog.
  • Bod cynrychiolwyr o blith staff cyffredin a myfyrwyr ar y pwyllgorau.
  • Bod rhestr o gyflogau a chostau yn cael ei chyhoeddi ar gyfer is-ganghellorion pob prifysgol sy’n derbyn arian cyhoeddus.

Manylion Prifysgolion Cymru

Dyma rai o’r ffigurau y mae UCU wedi eu casglu am brifysgolion Cymru.

Cyflogau Is-Ganghellorion

Caerdydd             271,000  (6x cyfartaledd cyflog staff)

Y Drindod DS     250.871 (7.4)

Abertawe            244,000 (6.7)

Aberystwyth       243.000 (7.1)

Met Caerdydd    229,058 (5.3)

Glyndwr               227,090 (6)

Bangor                 223,424 (6.6)

De Cymru            196,250 (8)

Swyddi sy’n talu mwy na £100,000

Caerdydd             129

Abertawe              28

Bangor                   18

De Cymru                8

Met Caerdydd         7

Y Drindod DA        5

Aberystwyth           3

Glyndwr                  1         `