Bu farw’r meteorolegydd a ddatblygodd y raddfa ar gyfer disgrifio gwahanol fathau o wyntoedd.
Roedd Bob Simpson yn un o’r rhai oedd yn gyfrifol am Raddfa Gwynt a Chorwynt Saffir-Simpson. Mae’r raddfa’n amcangyrfif y difrod posib i dai ac eiddo.
Bu farw Bob Simpson yn ei gartre’ yn Washington yn yr Unol Daleithiau. Fe ddechreuodd ei yrfa fel dyn tywydd yn 1940.
Fe fu’n gyfarwyddwr canolfan genedlaethol a oedd yn ymchwilio i gorwyntoedd, ac fe sefydlodd yr arsyllfa dywydd yn Mauna Loa, Hawaii.
Wrth ddisgrifio ei thad, fe ddywedodd ei ferch, Peg Simpson, ei fod o’n ddyn ymholgar oedd bob amser eisiau dysgu pethau newydd.